'Diffyg llefydd gofal plant i gyrraedd targed 30 awr'

  • Cyhoeddwyd
Children playingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prinder meithrinfeydd yn golygu na fydd rhai rhieni yn medru elwa ar addewid Llywodraeth Cymru o ddarparu 30 awr o ofal plant am ddim, yn ôl adroddiad newydd.

Ar gyfartaledd dwy awr a 40 munud o ofal sydd ar gael i bob plentyn ac mewn rhai ardaloedd does 'na ddim gofal plant o gwbl ar gael.

Mae'r Llywodraeth yn addo 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed.

Mae rhieni'n dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ofal plant y gallan nhw eu fforddio ac sy'n hyblyg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio datrys y broblem diffyg lleoedd.

Mae'r addewid i ddarparu 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn yn un o gynlluniau gweinidogion i helpu rhieni i ddychwelyd i waith.

Ond mae adroddiad sydd wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi codi pryderon ym ymwneud ag argaeledd gofal plant.

Ers mis Medi mae gofal plant am ddim wedi digwydd mewn chwe ardal yng Nghymru fel rhan o gynllun peilot - Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Y Fflint, Ynys Môn a Gwynedd.

Sefyllfa yn 'dorcalonnus'

Mae Zoe Maidment o Gaerdydd yn fam sengl i bedwar o blant, gyda'r ieuengaf yn bedair oed. Mae'n dweud ei bod hi'n cael trafferth dod o hyd i waith sy'n cydfynd â gofal plant.

Cafodd gynnig swydd yn ddiweddar ond doedd hi ddim yn bosib ei derbyn gan nad oedd yn medru dod o hyd i ofal plant.

"Mae'r sefyllfa gofal plant yn dorcalonnus," meddai.

"Mae na ddisgwyliad i famau a thadau sengl weithio, ond dyw hynny ddim wastad yn hawdd pan nad oes gennych rwydwaith o ffrindiau a theulu i edrych ar ôl plant.

"Dwi'n meddwl bod lot o rieni sengl yn dymuno gweithio ac mi fyddai 30 awr o ofal plant am ddim yn hynod o werthfawr petai modd gweithredu'r cynllun."

Yn ôl yr adroddiad mae 70,000 o blant tair a phedair oed yng Nghymru.

Mae'n dweud petai pob plentyn sy'n gymwys ar gyfer y cynnig yn ei dderbyn, byddai angen llefydd ar gyfer 46,000 o blant, ond yr amcangyfrif yw bod ond 45,000 ar gael.

Mae'r adroddiad yn nodi bod mwy o argaeledd gofal plant yng ngogledd Cymru, ond nad yw'r rhan hon o Gymru mor boblog.

Mae'n nodi hefyd nad oes cyfleusterau gofal plant mewn rhai ardaloedd gwledig a difreintiedig.

Yn ôl Amy Preece, pennaeth Gingerbread Cymru, elusen i deuluoedd un rhiant, mae rhieni plant ifanc yn dymuno gweithio ond dyw "gofal plant hyblyg a fforddiadwy ddim wastad ar gael".

"Ond fel mae'r ymchwil yn dangos dyw'r polisi ddim yn ymarferol heb fuddsoddiad.

"Hyd nes bod gofal plant o safon uchel a fforddiadwy ar gael yng Nghymru fe fydd hi'n anodd i rieni sengl fynd 'nôl i weithio."

Ffynhonnell y llun, Google

Un o'r meithrinfeydd sy'n rhan o'r cynllun peilot yw Meithrinfa Wendy House yn Sir Y Fflint.

Mae'r perchennog, Wendy Powell yn dweud bod meithrinfeydd yn wynebu costau cynyddol, ac mae hi'n credu y byddai gostwng trethi busnes yn help.

"Rydyn yn hapus iawn am y cynnig gan y bydd yn helpu rhieni ond rydyn ni'n cael ein gorfodi i godi ein prisiau drwy'r amser," meddai.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi cael ein rhoi o dan bwysau - mae fy nhrethi busnes wedi codi 40%, rydyn yn talu staff lleiafswm cyflog byw, rydyn yn talu y tâl salwch statudol sy'n golygu talu asiantaeth i gyflenwi pan mae rhywun yn sâl neu ar gwrs cymorth cyntaf.

"Rydyn am wneud y pethau yma i gadw'r safon ond mae'r cyfan yn costio a mae sawl meithrinfa yn ei chael hi'n anodd."

Mae cymdeithas National Day Nurseries (NDNA) Cymru yn galw ar feithrinfeydd preifat yng Nghymru i gael eu heithrio rhag talu trethi busnes er mwyn cyflawni addewid y llywodraeth.

Mae'r Alban eisoes wedi sicrhau fod meithrinfeydd yn cael eu heithrio o dalu'r trethi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn gwbl ymwybodol o'r her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru a darparwyr.

"Dyna pam ein bod yn datblygu'r cynnig yn ofalus ac yn cydweithio'n ofalus gyda'r sector er mwyn ystyried materion fel argaeledd."