Marwolaethau clefyd y galon '70% yn is mewn 20 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
celloedd cochFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl sydd yn marw'n gynnar oherwydd clefyd coronaidd y galon yng Nghymru wedi gostwng o bron i 70% mewn 20 mlynedd, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething fod yr astudiaeth yn dangos fod y GIG yng Nghymru yn parhau i wella gofal eu cleifion.

Ychwanegodd Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru fod yr ystadegau diweddaraf yn "galonogol".

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i ladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw afiechyd arall, gyda dros 9,000 yn marw bob blwyddyn.

Gwaharddiad ysmygu

Mae tua 375,000 o bobl yn byw â chlefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru - 4% o'r boblogaeth - yn ôl adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru.

Fe ddangosodd fod gostyngiad o 68% wedi bod yng nghyfradd y bobl sy'n marw'n gynnar o'r afiechyd, sy'n cynnwys trawiadau ar y galon neu angina, cyn eu bod nhw'n 75 oed.

Ers 2009 mae gostyngiad o 20% wedi bod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething fod clefyd y galon yn cael effaith fwy mewn cymunedau difreintiedig

Dywedodd yr adroddiad fod hwn oherwydd gwelliannau yn y ffordd roedd meddygon teulu yn adnabod clefydau'r galon, y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus eraill, a thriniaeth well gan y GIG.

Fodd bynnag, ychwanegodd yr adroddiad fod 4,085 o farwolaethau yng Nghymru yn 2015 - neu 11 y diwrnod - oedd yn cynnwys clefyd coronaidd y galon fel achos gwaelodol.

O'r rheiny roedd dros 1,400 ohonynt yn bobl dan 75 oed.

Lle i wella

Dywedodd pennaeth BHF Cymru, Adam Fletcher fod y canlyniadau'r adroddiad yn galonogol ond yn dangos fod llawer o gleifion dal ddim yn cael diagnosis yn ddigon sydyn.

Ychwanegodd fod cyfradd y bobl oedd yn goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn parhau i fod yn "isel" a bod BHF Cymru "wedi ymrwymo" i weithio ar wella hynny gyda Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.

Dywedodd Mr Gething fod cyfradd y marwolaethau o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru wedi gostwng yn gyson, ond bod mwy eto i'w wneud.

"Mae un farwolaeth y mae modd ei hosgoi yn golygu un yn ormod - rydyn ni'n gwybod fod mwy o mae modd ei wneud i drin ac atal clefydau ar y galon," meddai.