Tîm pêl-droed Cymru i chwarae yng Nghwpan China yn 2018
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yng Nghwpan China ym mis Mawrth 2018, ynghyd â'r Weriniaeth Czech ac Uruguay.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2017, a hynny rhwng Chile, Croatia, Gwlad yr Iâ a'r tîm cartref, China.
Y gred yw bod y posibilrwydd y byddai Gareth Bale yn teithio i China i gymryd rhan yn un o'r prif ffactorau sydd wedi arwain at wahodd Cymru.
Bydd Cymru'n chwarae o leia' ddwy gêm yn y gystadleuaeth.
Bydd y gemau'n cael eu chwarae yn Nanning yn ne China, ac yn digwydd yn ystod ffenestr ryngwladol Fifa rhwng 19-27 Mawrth.
Fe wnaeth Chile guro Gwlad yr Iâ i ennill y gystadleuaeth gyntaf, wrth i China orffen yn drydydd ar ôl curo Croatia.