Cau darn o Ffordd Blaenau'r Cymoedd i'w huwchraddio

  • Cyhoeddwyd
Gwaith fforddFfynhonnell y llun, Geograph/M J Roscoe

Fe fydd darn pum milltir o'r A465 - Ffordd Blaenau'r Cymoedd - yn cau i'r ddau gyfeiriad dros y penwythnos er mwyn uwchraddio'r ffordd.

Bydd y lon rhwng Brynmawr, Blaenau Gwent a Gilwern yn Sir Fynwy yn cau am 20:30 nos Wener ac yn ailagor fore Llun am 06:00.

Mae'r gwaith yn rhan o gynllun gwerth £800m i uwchraddio'r ffordd brysur.

Mae'r cynllun yn un pedair blynedd fydd yn troi'r lon yn ffordd ddeuol, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn hwyr yn 2018.

Bydd rhan o'r M4 yng Nghasnewydd hefyd yn cau dros nos ar nos Sadwrn.

'Gwella diogelwch'

Bydd y rhan yma o gynllun gwella'r A465 yn costio tua £220m, ac mae'n rhan o gynllun ehangach ar gyfer y ffordd sy'n cysylltu Abertawe gyda phriffordd yr A40 yn Y Fenni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r lon fel "gwythïen hanfodol yn ein rhwydwaith drafnidiaeth, a'r prif gysylltiad ffordd rhwng Cymru a chanolbarth Lloegr".

Mae'r gwaith yma yn lledu'r ffordd bresennol sy'n mynd drwy Geunant Clydach, ac yn cael ei ystyried yn un o'r ardaloedd mwyaf sensitif yn amgylcheddol ac ecolegol yng Nghymru.

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio dargyfeiriad drwy Bont-y-pŵl ac Abertyleri ar yr A467 a'r A4042.

Fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd y gwelliannau yn gwella diogelwch a lleihau amseroedd teithio.