Ffrainc 2-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru yn y gyntaf o ddwy gêm gyfeillgar nos Wener, a hynny yn y Stad de France yn erbyn Ffrainc.
Fe ddechreuodd Ffrainc yn gryf o'r cychwyn cyntaf, gan ddod yn agos i sgorio sawl gwaith yn y 10 munud agoriadol.
Kylian Mbappé oedd a'r ymgais agosaf gyntaf i'r Ffrancwyr, a ddaeth o fewn trwch postyn i sgorio.
Ond fe ddaeth y gôl gyntaf gan brif sgoriwr Euro2016, Antoine Griezmann, gyda chic foli heibio i Hennessey.
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts, a oedd yn sylwebu ar y gêm, y dylai Hennessey fod wedi arbed yr ergyd.
Roedd asgellwr Bayern Munich, Kingsley Coman yn fygythiad cyson drwy'r gêm, ac yn creu problemau mawr i amddiffynwyr Cymru, gyda chyflymder ar y bêl yn rhan amlwg o'i gêm.
Daeth unig wir gyfle Cymru am gôl yn yr hanner cyntaf ar ôl 35 munud, gan neb llai na Chris Gunter.
Er bod rhai o chwaraewyr Cymru wedi galw am gic o'r smotyn, dywedodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones y dylai Gunter fod wedi gwneud yn well o'r cyfle oedd ganddo.
Nos Wener oedd cap rhif 84 i Chris Gunter, sydd un yn brin o recod y diweddar Gary Speed.
Fe benderfynodd Chris Coleman newid tactegau ar gyfer yr ail hanner, gan geisio cynnig steil newydd o chwarae, a rhoi cyfle i'r chwaraewyr ifanc Woodburn, Brooks ac Ampadu.
Tri yn gwneud argraff yn syth
Fe ddaru'r tri wneud argraff o'r munud cyntaf, ac fe chwaraeodd y tri eu rhan mewn sawl ymgais am gôl.
Ramsey oedd yr agosaf i sgorio i Gymru yn yr ail hanner, a hynny gydag ymdrech gyda phêl gan Ampadu.
Daeth ail gôl Ffrainc gyda 20 munud o'r chwarae yn weddill, un ergyd oddi ar droed chwith Giroud, ac fe wyrodd y bêl oddi ar Chester ac heibio i Hennessey.
Gan ystyried fod Ffrainc yn un o ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd yr haf nesaf, fe ddywedodd Owain Tudur Jones ar raglen Camp Lawn ar BBC Radio Cymru, fod Cymry wedi gwneud yn dda i gadw'r sgôr yn barchus yn erbyn tîm mor dda â Ffrainc.
Fe fydd Cymru'n croesawu Panema i Gaerdydd mewn gêm gyfeillgar arall nos Fawrth.