URC yn amddiffyn mesurau diogelwch gêm Cymru Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amddiffyn y mesurau diogelwch llym oedd yn wynebu cefnogwyr wrth gyrraedd Stadiwm Principality ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Awstralia nos Sadwrn.
Roedd llawer o gefnogwyr yn rhwystredig iddyn nhw golli'r gic gyntaf, oherwydd ciwiau hir i fynd i mewn i'r stadiwm.
Colli wnaeth Cymru yn erbyn y Wallabies o 21-29.
Fe aeth nifer ar y cyfryngau cymdeithasol i gwyno am y sefyllfa.
Dywedodd un cefnogwr fod y ciwio yn "anhrefn", tra bod eraill wedi galw am oedi cyn y gic gyntaf am 17:15.
'Caniatáu amser'
Ond mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y mesurau diogelwch yn hollbwysig, a'u bod wedi rhybuddio pobl i gyrraedd yn gynt.: "Rydym wedi dyblu'r oriau agor cyn y gêm i dair awr er mwyn rhoi digon o gyfle i gefnogwyr osgoi ciwiau, ac rydym wedi gwenud pob ymdrech i gyfathrebu gyda chefnogwyr er mwyn iddyn nhw allu cynllunio i gyrraedd yn gynnar.
"Mae diogelwch a mwynhad ein hymwelwyr yn o'r pwysigrwydd mwyaf.
"Mae cefnogwyr rygbi Cymru'n enwog am gyfrannu i'r awyrgylch wych y tu fewn i'r stadiwm a'r gefnogaeth hollbwysig maen nhw'n ei roi ar y cae.
"Heddiw, fe fwynheuodd miloedd o gefnogwyr yr adloniant newydd cyn y gêm, o dair awr cyn y gic cyntaf, gan gynnwys cerddoriaeth fyw a chynigion manwerthu i rai oedd yn cyrraedd yn gynnar."
Ar rhybuddiodd yr undeb mai'r un fydd y drefn drwy gydol cyfres yr hydref: "Mae'n bwysig pwysleisio y bydd y mesurau hyn yn parhau a dydyn ni ddim eisiau i neb golli'r gic gyntaf.
"Byddwn yn parhau i annog cefnogwyr i ganiatáu rhagor o amser iddyn nhw gyrraedd y stadiwm yn y dyfodol, gan fod y gwiriadau'n hollbwysig ar gyfer diogelwch pawb."
Bydd Cymru'n herio Georgia yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn Tachwedd 18.