Achub neidr 'allai fod wedi cael ei golchi lawr toiled'
- Cyhoeddwyd

Neidr o'r math corn carolina ydy'r creadur gafodd ei ganfod yng Nghaernarfon
Mae neidr allai fod wedi cael ei golchi lawr toiled wedi cael ei hachub.
Yr wythnos ddiwetha' daeth gweithwyr o hyd i'r Neidr Ŷd Carolina yn y system carthffosiaeth yng ngwaith trin Dŵr Cymru Llanllyfni, Gwynedd.
Cafodd RSPCA Cymru eu galw, ac fe lwyddon nhw achub yr anifail oedd yn dal i fod yn iach.
Mae'r elusen yn credu y gallai'r neidr fod wedi cael ei rhoi mewn toiled neu ei bod wedi ceisio dianc drwy doiled.

Cafodd y neidr ei chanfod mewn rhan o system carthffosiaeth Dŵr Cymru