Comisiynydd Safonau 'i edrych ar honiadau aflonyddu'

  • Cyhoeddwyd
Y Cynulliad Cenedlaethol

Mae arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad wedi dweud y byddan nhw'n cyfeirio pob honiad o gamymddwyn i'r Comisiynydd Safonau yn y dyfodol.

Yn dilyn cyfarfod rhyngddyn nhw a'r Llywydd Elin Jones ddydd Mercher, maen nhw hefyd wedi dweud y byddan nhw'n "cryfhau eu gweithdrefnau" fel bod pobl yn teimlo'n "fwy hyderus" i adrodd am ddigwyddiadau.

Bydd y cod ymddygiad ar gyfer ACau hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw un sydd yn gwneud cwyn, nid dim ond y rheiny sy'n gweithio yn y Cynulliad - a hynny ar sail cyfrinachedd.

Bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn datblygu polisi newydd fydd yn rhan o'r cod, ac yn adolygu'r cosbau os yw'r cod yn cael ei dorri.

'Amgylchedd ddiogel'

Yn dilyn y cyfarfod ddydd Mercher fe wnaeth yr arweinwyr ryddhau datganiad yn dweud ei fod yn "destun gofid mawr i ni y gallai ymddygiad amhriodol aelodau o'r sefydliad hwn fod wedi effeithio ar unigolion".

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn mynd i weithio gyda'n gilydd i egluro a chryfhau ein gweithdrefnau i sicrhau bod unigolion yn teimlo'n fwy hyderus i roi gwybod am honiadau o ymddygiad amhriodol, a bod yr honiadau hyn yn cael eu hymchwilio'n drylwyr ac yn deg - i bawb dan sylw."

Fel rhan o hynny maen nhw'n dweud y bydd Polisi Parch ar Urddas yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng Comisiwn y Cynulliad a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Llywydd y Cynulliad, Elin Jones oedd wedi galw am y cyfarfod i drafod sut i ddelio â honiadau aflonyddu

Bydd y drefn newydd yn golygu y bydd y Comisiynydd Safonau yn gyfrifol am edrych ar bob cwyn am ymddygiad amhriodol sy'n cael ei wneud yn erbyn Aelod Cynulliad.

Byddai'r holl staff sy'n gweithio yn y Cynulliad hefyd yn cael eu "gwarchod gan yr un disgwyliadau", yn ogystal â bod yn "ddarostyngedig" iddyn nhw.

"Rydym i gyd yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb dros sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd diogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â'n Haelodau neu ein gweithwyr," meddai'r arweinwyr.

Cafodd y datganiad ei arwyddo gan y Llywydd Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Jane Bryant, ac arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad - Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood, Neil Hamilton a Kirsty Williams.

Proses gwyno

Cafodd y cyfarfod gwreiddiol i drafod aflonyddu rhywiol ei ohirio'r wythnos diwethaf yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Llafur, Carl Sargeant.

Fe wnaeth Mr Sargeant ladd ei hun bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Jones ac arweinydd Plaid Cymru awgrymu y dylai Comisiynydd Safonau'r Cynulliad ymchwilio i honiadau o'r fath yn y dyfodol.

Yn ôl Ms Wood fe fyddai'r comisiynydd yn gallu cynnig modd annibynnol i ymchwilio i honiadau.

Dywedodd Mr Jones fod yna "fudd mewn ymchwilio, gyda'r Llywydd, i sut y gallai'r Comisiynydd Safonau newid rôl" er mwyn "creu proses gwynion sy'n cefnogi'r holl bleidiau".

Yn San Steffan mae arweinwyr y pleidiau wedi cytuno i gyflwyno proses gwyno newydd er mwyn caniatáu i staff ymdrin â honiadau o gamymddwyn yn y Senedd.

Daw hynny ar ôl cyfres o honiadau yn erbyn Aelodau Seneddol.