Galw i Gymru allu cadw rhaglenni'r UE yn dilyn Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd gwleidyddion o wledydd Ewrop yn galw ar Gymru i allu parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni'r UE hyd yn oed os na fydd Llywodraeth y DU yn cyrraedd cytundeb Brexit.
Bydd cynrychiolwyr o fwy nac 20 rhanbarth yn gwneud yr alwad fel rhan o gyfarfod Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR) yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Cyn y cyfarfod, dywedodd Prif Weinidog Cymru nad yw'n "ceisio dadwneud Brexit" ond pwysleisiodd y dylid blaenoriaethu ystod o fuddiannau a rennir â gwledydd Ewropeaidd yn y trafodaethau.
Bydd cynrychiolwyr gwleidyddol o'r Almaen, Ffrainc, Iwerddon a'r Alban yn mynychu'r cyfarfod.
'Gresynu ond parchu'
Bydd Carwyn Jones yn ymuno â'r cynrychiolwyr hynny wrth lofnodi 'Datganiad Caerdydd', dolen allanol, sy'n galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i "agor y posibilrwydd y gall Gweinyddiaethau Datganoledig y DU gymryd rhan yn uniongyrchol mewn rhaglenni'r UE yn y dyfodol" os na fydd yna gytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE.
Mae'r datganiad yn tanlinellu "diddordeb cryf" y dylai Cymru barhau i gymryd rhan mewn rhaglenni olynol Horizon 2020 (ymchwil ac arloesedd), Erasmus+ (addysg a hyfforddiant), a Creative Europe (diwylliant) yn dilyn Brexit.
Mae hefyd yn nodi bod y CPMR "yn gresynu ond yn parchu" pleidlais Brexit ac yn tynnu sylw at "bwysigrwydd dod i gytundeb ar rwymedigaethau ariannol y DU".
Mae'r bil y mae disgwyl i'r llywodraeth yn San Steffan ei dalu ar ôl gadael yr undeb yn achosi tipyn o anghytuno ar hyn o bryd yn y trafodaethau Brexit.
'Gwlad agored, groesawgar'
Dywedodd Mr Jones: "Drwy ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop ynghyd a llofnodi 'Datganiad Caerdydd' rydyn ni'n dangos yn glir ein bod ni'n bwriadu cydweithio gyda'n partneriaid Ewropeaidd.
"Mae Cymru'n parhau i fod yn wlad agored, groesawgar ar lwyfan y byd, ac ni fydd Brexit yn newid hynny.
"Rydyn ni wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf nad ydyn ni'n ceisio dadwneud Brexit, ond rydyn ni'n rhannu amrywiaeth o fuddiannau - o fasnach i ddiogelu hawliau dinasyddion y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd - ac mae'n rhaid i hynny gael blaenoriaeth yn y trafodaethau.
"Er bod Brexit yn mynd i effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn Ewrop, mae'r digwyddiad hwn a'n datganiad ar y cyd yn dangos na ddylai fod yn rhwystr i'r berthynas gadarn, gref sy'n fanteisiol i bob un ohonom."