Argyfwng clwb pêl-droed Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed Merthyr Tudful yn wynebu argyfwng ar ôl i 80% o chwaraewyr y clwb adael.
Deellir bod y chwaraewyr wedi ymddiswyddo yn dilyn trafferthion ariannol yno.
Ar wefan y clwb dwedodd Gavin Williams, rheolwr Merthyr: "Mae 80% o'r chwaraewyr wedi gadael ond rwy'n dal i drafod gyda rhai chwaraewyr ynglŷn ag aros."
"Rwy'n hyderus y gallwn godi tîm cystadleuol i chware ond fe fydd yn e'n cymryd peth amser."
Bydd y clwb yn cynnal cyfarfod brys dydd Llun i drafod y sefyllfa.
Yn y cyfamser bydd Merthyr yn wynebu Chesham United yfory - gyda llawer o chwaraewr y tîm ieuenctid yn cael eu dyrchafu i'r tîm cyntaf.
Fe ddaw'r trafferthion diweddaraf yn dilyn ymddiswyddiad prif weithredwr ym Mis Medi ac mae sawl aelod o fwrdd y clwb wedi penderfynu gadael hefyd.