Croeso i Coleman wrth i Osian Roberts alw am benodi Cymro
- Cyhoeddwyd
Mae Sunderland yn dweud eu bod yn croesawu cyn reolwr tîm pêl-droed Cymru yn fawr ar ôl iddo arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner yn y Stadium of Light.
Hwn yw'r pumed clwb i Coleman ei reoli, ar ôl cyfnodau wrth y llyw gyda Fulham, Real Sociedad, Coventry City ac AEL.
Fe gymerodd Coleman ei sesiwn ymarfer cyntaf fore Sul a chanol yr wythnos bydd ei dîm newydd yn wynebu Aston Villa.
Yn ei gyfweliad cyntaf â'r BBC ers i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru, dywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts ddydd Sadwrn mai ei ddymuniad ef fyddai i Gymro olynu Coleman.
Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd Mr Roberts: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored.
"Does dim rheolau, wrth gwrs, yn nodi bod yn rhaid i'r rheolwr nesaf fod yn Gymro."
Yn ôl y bwcis, Osian Roberts ei hun yw'r trydydd ffefryn i olynu Chris Coleman ond doedd e ddim am gadarnhau a fyddai'n dymuno'r swydd.
"Mae nifer yn mynd i fod ar y rhestr gan ei bod yn swydd arbennig iawn rheoli dy wlad," meddai.
"Yr un peth da yw nad oes dim byd rŵan tan fis Mawrth sef y gwpan yn China.
"Am wn i y dymuniad yw cael rheolwr mewn lle wythnosau cyn y gystadleuaeth fel bod paratoadau yn gallu cael eu gwneud."
"O ran fi fy hun dwi erioed wedi treulio amser yn meddwl am y ffasiwn beth.
"Mae hi wedi bod yn daith saith mlynedd union i fi yn teithio gyda Gary Speed a Chris Coleman - taith orau fy mywyd ond pwyntiau isel a thrasig hefyd wrth gwrs.
"Mae pêl-droed yn fyd rhyfedd iawn, dwi erioed yn fy nghyrfa wedi cynllunio un cam. Mae pethau'n gallu newid mor sydyn a gawn ni weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol."
'Methu cystadlu gyda chlybiau mawr'
Wrth gael ei holi a oedd ymadawiad Chris Coleman yn sioc iddo dywedodd Roberts ei fod yn grediniol fod Coleman yn dymuno aros ond bod clybiau mawr yn gallu cynnig llawer mwy o arian.
"Y realiti yw nad yw'r Gymdeithas Bêl-Droed yng Nghymru yn gallu cystadlu gyda'r math o arian y mae'r clybiau mawr yn ei gynnig.
"Ond dyma gyfle i Chris fynd yn ôl mewn i'r gynghrair ac mae e'n gorfod meddwl am ddyfodol ei deulu.
"Ro'n i wedi gobeithio y byddai'r ddwy ochr yn gallu dod ynghyd a chytuno i symud ymlaen.
"Dwi'n meddwl bod y ddwy ochr wedi trio... ond y realiti ydy mae pŵer ariannol y clybiau mawr yn aruthrol."
O gael ei holi a yw Mr Coleman wedi gwneud y penderfyniad iawn awgrymodd Roberts ei fod yn benderfyniad mawr gan nad yw Sunderland yn glwb sy'n perfformio'n dda ar hyn o bryd.
"Amser a ddengys. Mae Sunderland yn glwb sy'n wynebu peryglon," meddai.
"Ond mae rhywun yn tybio ei fod wedi cael y trafodaethau yma a'i fod wedi cael ei argyhoeddi y gallai wneud llwyddiant o'r clwb.
"Os geith e lwyddiant, mi fyddai hynny yn bluen yn ei het."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017