Cymru 13-6 Georgia

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Lydiate, capten Cymru yn dweud bod llawer o gamgymeriadau yn yr ail hanner

Er i Gymru ennill roedd disgwyl i'r tîm cartref berfformio lawer iawn yn well yn yr ail o gemau rhyngwladol yr hydref.

Fe ddechreuodd Cymru yn dda gan sicrhau 10 pwynt yn fuan wedi cais gan asgellwr Cymru Hallam Amos a chicio cywir gan Rhys Priestland.

Ond o fewn 50 munud dim ond pedwar pwynt oedd ynddi wedi i Soso Matiashvili o Georgia lwyddo gyda chiciau cosb.

Bu Georgia bron iawn a bod yn gyfartal wrth iddyn nhw fygwth sgorio cais ar ddiwedd y gêm a hynny wrth i Gymru orfod chwarae gyda 14 dyn gan fod prop Cymru Tom Francis wedi'i gosbi.

Gyda throsgais byddai'r sgôr wedi bod yn hafal ond roedd yna achubiaeth i'r Cymry wrth iddyn nhw sicrhau cic gosb yn y funud olaf.

Digon blêr a dryslyd oedd pethau ar y diwedd, gan ddwyn i gof yr olygfa ym Mharis ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth i Gymru fethu â rhoi prop ymlaen yn lle Francis.

Yn ffodus i Gymru penderfynodd y dyfarnwr nad oedd hi'n bosib cael sgrym.

Y Crysau Duon fydd nesaf

Gêm ddigon di-fflach oedd hon, yn ôl yr arbenigwyr, a doedd fawr o bleser i'r cefnogwyr.

Ar ddiwedd y chwarae dywedodd y capten Dan Lydiate bod llawer iawn o gamgymeriadau gan y Cymry yn yr ail hanner.

Bydd rhaid i Gymru berfformio'n well wythnos nesaf yn erbyn y Crysau Duon.