Heddlu yn cadarnhau cam-drin rhywiol ar Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod wedi derbyn adroddiadau o gam-drin rhywiol wedi'i gyflawni gan fynach ar Ynys Bŷr yn yr 1970au a'r 1980au.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal yn 2014 a 2016 ond doedd hi ddim yn bosib erlyn y Tad Thaddeus Kotik gan iddo farw yn 1992.
Mae adroddiad ym mhapur newydd The Guardian yn dweud bod Abaty Ynys Bŷr wedi talu iawndal i chwech dynes a gafodd eu cam-drin pan yn blant.
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â'r abaty yn Sir Benfro.
Mae papurau llys sydd wedi cael eu gweld gan The Guardian yn nodi bod y cam-drin wedi digwydd rhwng 1972 ac 1987 a bod y merched, a oedd ar wyliau ar y pryd, yn credu bod mwy o ddioddefwyr.
Roedd Kotik yn gweithio yn llaethdy'r abaty ac yn dueddol o ffurfio cyfeillgarwch gyda theuluoedd a ymwelai'r â'r ynys yn gyson.
Wedi iddo ennill ymddiriedaeth rhieni, ef fyddai'n gwarchod y plant ac yn eu cam-drin, awgryma'r papur.
Mae'r merched, na sy'n cael eu henwi, yn dweud bod yr abaty yn gwybod am y troseddau a'i bod wedi peidio sôn am Kotik wrth yr heddlu.
'Ofnus'
Dywedodd y merched bod gweithrediadau Kotik wedi "codi ofn arnynt a'u gwthio i fod yn ddistaw" a phetaent yn dweud wrth rywun ni fyddai eu rhieni eu heisiau ac fe fyddent yn cael eu gadael gydag ef.
Yn 2014, fe e-bostiodd un o'r menywod abad presennol Abaty Ynys Bŷr, Y Brawd Daniel van Santvoort, gan ddweud wrtho bod effaith y cam-drin wedi bod yn gatastroffig.
Dywedodd: "Mae'r hyn a wnaeth y Tad Thaddeus wedi'm gadael gyda theimladau o orbryder, ofn, euogrwydd a thristwch.
"Rwyf wedi byw bywyd lle rwy'n casáu fy hun a dwi'm yn gallu ymddiried na chredu y bydd person arall yn fy ngharu."
Mae The Guardian yn adrodd bod y Brawd Daniel wedi clywed honiadau cynharach am Kotic a'i fod mewn ymateb wedi dweud: "Rwyf, ar dro, wedi clywed am y mater difrifol hwn yn ymwneud â'r Tad Thaddeus".
Dywedodd bod y fynachlog yn gwybod am ei droseddau a'i bod wedi'i wahardd rhag cysylltu â phobl ac ymwelwyr ar yr ynys yn yr 1980au ond nad oedd ei droseddau honedig wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu.
"Rwyf i bellach yn gwbl ymwybodol o'r drosedd ddifrifol hon ac fe ddylai y Tad Thaddeus fod wedi cael ei drosglwyddo i'r heddlu - ond ddigwyddodd hynny erioed," ychwanegodd.
Fe anfonodd y Brawd Daniel yr e-byst ymlaen at Heddlu Dyfed-Powys ac ar eu cais rhoddodd iddynt ddatganiad ffurfiol.
Ond gysylltodd yr heddlu ddim â'r ddynes ar ôl derbyn y gŵyn.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Gallwn gadarnhau ein bod yn 2014 a 2016 wedi derbyn adroddiadau am gam-drin rhywiol (nad oedd yn ddiweddar) ar Ynys Bŷr ac mai'r enw sy'n gysylltiedig â'r drosedd yw y diweddar Thaddeus Kotik.
"Cafodd yr adroddiadau eu cofnodi fel troseddau ac mae plismyn wedi cysylltu â dioddefwyr.
"Yn ystod yr ymchwiliad, cafwyd gwybodaeth a oedd yn cadarnhau fod y sawl a gyflawnodd y troseddau wedi marw ac felly doedd hi ddim yn bosib erlyn.
Cafodd cefnogaeth broffesiynol addas ei chynnig ac fe ddaethpwyd â'r mater i ben.
"Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin i roi gwybod iddynt drwy ffonio 101."
Mae'r Brawd Daniel wedi ymddiheuro i'r ddynes, ond yn ôl The Guardian, yn ystod yr achos cyfreithiol roedd yr abaty yn honni nad oedd yn gwybod dim am y cam-drin.
'Cais am ymddiheuriad'
Nododd The Guardian hefyd bod yr abaty wedi dweud nad oedd yn gyfrifol gan fod y mynachod a oedd yn yr abaty ,yn ystod adeg yr honiadau, wedi marw ac nad oedd yr offeiriad wedi'i gyflogi gan yr abaty i ofalu am y plant.
Roedd yr amddiffyniad felly yn gofyn i'r rhai a oedd yn gwneud yr honiadau i brofi pob trosedd.
Mae The Guardianyn nodi hefyd fod yr abaty yn dweud ei bod yn rhy hwyr i erlyn a'i bod yn amhosib i'r abaty gael achos teg.
Nodir yn ogystal bod yr abaty wedi gofyn i'r llys i beidio â chaniatáu yr honiad gan fod ei ddifrifoldeb yn debygol o ddenu sylw a allai fygwth parhad yr abaty.
Fe dderbyniodd y merched, fel ag a nodir yn y papur newydd, iawndal isel ond nid ymddiheuriad.
Dywedodd y gyfreithwraig Tracey Emmott, sy'n cynrychioli'r merched, wrth The Guardian: "Bu'n rhaid gorchymyn achos llys cyn i daliadau gael eu gwneud y tu allan i'r llys ac hyd yn oed wedyn doedd cais fy nghleient am ymddiheuriad swyddogol fel rhan o'r setliad fyth yn fater o frys."