Heddlu Gwent yn annog mwy i adrodd arwyddion o gam-drin

  • Cyhoeddwyd
plentyn ar swingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn gobeithio gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau o gam-drin plant honedig, yn dilyn ymgyrch ddiweddar.

Dywedodd y llu eu bod yn poeni nad yw arwyddion cynnar o gam-drin yn aml yn cael eu hadrodd.

Mae ymgyrch Arhoswch yn Saff wedi bod yn rhedeg sesiynau gydag ysgolion, gwestai, cwmnïau tacsis ac eraill i geisio "creu darlun" o beth allai fod yn digwydd i blant, ac ymyrryd yn gynt.

Roedd yr ymgyrch yn seiliedig ar brofiad tîm y llu sy'n gyfrifol am blant ar goll, yn dilyn canfyddiad fod pobl ifanc sydd yn rhedeg i ffwrdd o adref yn fwy tebygol o gael eu hecsbloetio'n rhywiol.

'Dim digon yn adrodd'

"Rydyn ni'n cael adroddiadau fod pobl yn cael eu cam-drin, ond hefyd mae angen i ni fod yn wyliadwrus o'r arwyddion cynnar yna," meddai'r Ditectif Sarjant Louisa Wilson, sy'n arwain ymgyrch Arhoswch yn Saff.

"Mae pobl yn aml yn meddwl, am ba bynnag resymau, 'wel perthynas rhwng dau gariad yw hwn, maen nhw'n cydsynio i gael rhyw'. Ond all plentyn ddim cydsynio i gael eu cam-drin.

"Yn sicr does dim digon o bobl yn adrodd am hyn a dwi'n gobeithio drwy'r ymgyrch yma y gwelwn ni gynnydd."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant sy'n diflannu am gyfnodau, yn yfed neu'n cymryd cyffuriau yn gallu bod yn arwyddion cynnar

Dywedodd eu bod yn gofyn i bobl wahanol, fel gyrwyr tacsis a gwestai, fod yn wyliadwrus am wahanol arwyddion o gam-drin.

"Un [o'r arwyddion] yn bendant yw mynd ar goll - pan mae pobl ifanc yn dechrau diflannu dros nos, yfed neu ddefnyddio cyffuriau, treulio amser gyda phobl hŷn, newid eu grŵp ffrindiau," meddai.

"Weithiau mae'r darn yna o wybodaeth yn gallu atal plentyn rhag cael eu cam-drin, felly waeth pa mor ddinod yw'r wybodaeth bydden i'n gofyn iddyn nhw ffonio ac adrodd amdano er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth."

Mae Jade, nid ei henw iawn, yn byw yn ne Cymru.

Pan oedd hi'n 12 oed roedd hi mewn perthynas â dyn 18 oed yr oedd hi'n ystyried fel ei chariad:

"Fe wnaeth fy mam weld yr arwyddion a cheisio esbonio wrtha i pam oedd e'n anghywir... ond nes i jyst anwybyddu hi, gan feddwl ei bod hi'n trio bod yn gas i ryw raddau.

"Os allwch chi weld yr arwyddion mae'n well eich bod chi'n dweud wrth rywun amdanynt cyn ei bod hi'n mynd yn rhy hwyr.

"Os 'dych chi'n anghywir, 'dych chi'n anghywir ond o leia' fe wnaethoch chi'r peth iawn.

"Fe alle' chi fod yn iawn ac fe alle' chi fod yn achub bywyd rhywun i ryw raddau - achos fe allai fynd yn waeth ac mae rhai pobl, oherwydd cyffuriau, yn marw ac mae'n ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cam-drin yn gallu cael ei gamgymryd am berthynas cydsyniol rhwng cariadon, meddai'r heddlu

Mae Katie Dorrian yn dditectif gwnstabl gydag uned ecsbloetio plant Heddlu Gwent, ac yn dweud ei fod yn cymryd amser i fagu'r cyswllt ac ymddiriedaeth yna gyda phlant bregus.

"Rydyn ni'n ceisio creu darlun o'r plentyn... ble maen nhw'n mynd, a beth maen nhw'n ei wneud pan maen nhw'n diflannu," meddai.

"Rydyn ni'n casglu gwybodaeth ar bobl eraill - ffrindiau neu bobl eraill allen nhw fod yn ymwybodol ohonyn nhw sydd yn mynd drwy'r un peth â nhw.

"Mae'n wych pan 'dych chi'n cael rhywun yn y llys... neu'n sortio mas [y person ifanc] gyda'u haddysg, eu hiechyd.

"Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo o bosib nad oes unrhyw beth o'i le - mae'r berthynas yna'n cael ei fagu ar-lein ond maen nhw'n credu mai eu cariad nhw ydyn nhw."