Ymgyrch gyffuriau fwyaf Heddlu'r Gogledd ers 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflawni'r ymgyrch gyffuriau fwyaf yn hanes y llu ers 20 mlynedd ar hyd Ynys Môn a Sir Conwy.
Roedd Operation Zeus yn cynnwys 250 o swyddogion yn cyflawni cyrchoedd am 06:45 y bore gyda ffocws ar y cyflenwad o'r cyffur cocên.
Roedd yr ymgyrch yn cael ei harwain gan Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig (SOCA) a oedd wedi cynllunio i arestio 12 person oedd yn wybyddus iddyn nhw.
Fe gafodd un dyn lleol yn ei 30 ei arestio mewn tafarn yng Nghaergybi ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A, gwyngalchu arian a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ond mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau bod 15 person wedi cael eu harestio, ac maen nhw'n cael eu dal mewn gorsafoedd heddlu yng Nghaernarfon, Caergybi a Llanelwy.
Mae'r bobl gafodd eu harestio yn hanu o Gaergybi, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Lerpwl a Manceinion.
Mae'r heddlu'n parhau i chwilio'r lleoliadau eraill oedd yn rhan o'r cyrch.
Dywedodd Sarjant Dylan Robert o Heddlu'r Gogledd: "Mae 'na nifer o blismyn a 27 gwarant [wedi'u gweithredu] yn ardal Gogledd Cymru.
"Mae heddiw wedi dod yn sgil misoedd o waith darparu ar ran yr heddlu, be 'da ni'n alw'n 'intellicence-led policing', 'dan ni wedi bod yn gwatchad pobl ers misoedd a 'dan ni wedi dod ymlaen rŵan i gau popeth fyny."
Ar yr un amser â'r cyrchoedd yng ngogledd Cymru, fe wnaeth lluoedd heddlu Glannau Mersi a Manceinion gynnal cyrchoedd tebyg ar ôl cydweithio gyda Heddlu'r Gogledd.