Hollt ddramatig ar Lwybr yr Arfodir yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o'r llwybr arfordirol i'r gogledd o Aberystwyth wedi cael ei gau ar ôl i hollt fawr ymddangos yn y tir.
Mae'r hollt fawr i'w gweld ar glogwyn uwchben creigiau i'r gogledd o Clarach.
Fe gadarnhaodd Cyngor Ceredigion bod "darn poblogaidd o Lwybr Arfordirol Ceredigion a Chymru rhwng Clarach a Wallog wedi troi'n ansefydlog yn dilyn tywydd stormus diweddar ac fe fydd ar gau hyd nes y clywir yn wahanol".
Yn ôl y Cynghorydd Paul Hinge, mae'r clogwyn rhwng 20 i 40 troedfedd uwchlaw'r traeth, ac fe fyddai'n ddoeth i bobl osgoi'r rhan yma o'r traeth am y tro.
Cyngor i'r cyhoedd
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar bod swyddogion y cyngor wedi cau'r rhan hwn o'r llwybr yn brydlon tra'u bod nhw'n ymchwilio i'r broblem.
Mae llun o'r hollt wedi cael ei rannu 1,500 o weithiau ers iddo ymddangos ar wefannau cymdeithasol nos Lun.
Mae Cyngor Ceredigion yn gofyn i'r cyhoedd osgoi'r rhan yma ac i ddilyn llwybrau arall yn y cyfamser.
"Mae staff Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda tirfeddianwyr i adnabod datrysiad hir dymor a fydd yn galluogi'r cyhoedd i ddychwelyd i'r rhan yma o arfordir Ceredigion," meddai'r Cyngor.