Corff treftadaeth Cadw i barhau'n rhan o Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon newydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud y bydd Cadw yn parhau'n rhan o Lywodraeth Cymru.
Daw hynny wedi i adroddiad cynharach argymell y gallai'r corff treftadaeth ddod yn sefydliad elusennol neu asiantaeth weithredol y tu allan i'r llywodraeth.
"Fe welwyd bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn cadw Cadw yn rhan o'r llywodraeth yn weddol gytbwys," meddai'r Arglwydd Elis-Thomas.
Ychwanegodd fod Cadw wedi perfformio'n "eithriadol o dda" dros y blynyddoedd diwethaf, a'u bod ar y "trywydd iawn".
'Llwyddiannus iawn'
Yn gynharach eleni fe wnaeth nifer o gyrff treftadaeth Cymru leisio'u gwrthwynebiad i adolygiad annibynnol oedd wedi argymell uniad ffurfiol o'u swyddogaethau.
Roedd adroddiad hefyd wedi argymell wrth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates - oedd hefyd yn gyfrifol am ddiwylliant ar y pryd - y dylai Cadw droi'n sefydliad annibynnol.
Roedd gwrthwynebiad cryf gan Amgueddfa Cymru ac eraill i gynllun gwreiddiol y llywodraeth i uno rhai elfennau masnachol sefydliadau treftadaeth dan gorff ymbarél newydd, Cymru Hanesyddol.
Ond mewn datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y gweinidog newydd, Dafydd Elis-Thomas na fyddai'r newid hwnnw bellach yn mynd yn ei flaen.
"Yn yr hinsawdd sydd ohoni mae heriau ariannol, deddfwriaethol ac adnoddau dynol yn gysylltiedig â chreu sefydliad newydd ar yr adeg hon," meddai'r gweinidog.
"Mae Cadw eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu ei lefelau incwm o fewn y llywodraeth a chyfrannu at flaenoriaethau deddfwriaethol a blaenoriaethau o ran polisi.
"Un mater allweddol yw costau ychwanegol ei sefydlu'n sefydliad ar wahân.
"Drwy barhau o fewn y llywodraeth gall Cadw hefyd wneud mwy o gyfraniad at ein nod canolog o Ffyniant i Bawb."
'Mwy o incwm'
Ychwanegodd y gweinidog fod angen i Cadw sicrhau "nifer o welliannau busnes" er mwyn "mynd i'r afael â materion a nodwyd gan adolygiadau blaenorol, staff a rhanddeiliaid".
"Bydd y rhain yn ei gwneud yn bosibl i Cadw weithredu'n well gan hefyd ymateb i'r problemau gwirioneddol a godwyd mewn adolygiadau diweddar ar yr un pryd, gan gynnwys yr angen i gynhyrchu mwy o incwm a gweithio'n fwy effeithiol o fewn gofynion llywodraethu'r sector cyhoeddus," meddai.
Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas gadarnhau y bydd cyllid blynyddol y cyrff treftadaeth yng Nghymru yn aros yr un fath tan 2020.
Mae'r penderfyniad yn effeithio ar sefydliadau fel Cadw, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd7 Medi 2017