Mwy yn honni camdriniaeth ar Ynys Bŷr

  • Cyhoeddwyd
Thaddeus Kotik
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw y Tad Thaddeus Kotik yn 1992

Mae tair dynes arall yn honni iddyn nhw hefyd gael eu camdrin yn rhywiol gan fynach ar Ynys Byr yn y 70au a'r 80au.

Mae chwech o fenywod eisioes wedi derbyn iawndal oddi wrth yr abaty ar ôl iddyn nhw ddweud bod y Tad Thaddeus Kotik wedi eu camdrin nhw.

Bellach mae 11 o fenywod yn honni eu bod nhw wedi cael eu camdrin pan oedden nhw'n blant gan y mynach.

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr sy'n dangos fod yr honiadau yn erbyn Y Tad Kotik wedi cael eu hadrodd wrth y Brawd Robert o'Brien yn 1990, ond nad oedd yr honiadau wedi cael eu pasio at yr heddlu ar y pryd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod wedi derbyn adroddiadau o'r gamdriniaeth gan Kotik yn 2014 ac yn 2016.

Camdrin teulu

Nawr mae newyddiadurwraig o Awstralia, sydd wedi bod yn ymchwilio i'r achosion, yn dweud bod dynes wedi dod ati i ddweud ei bod hi a'i dwy chwaer hefyd wedi cael eu camdrin gan y Tad Kotik.

Dywedodd Amanda Gearing for y ddynes wedi cael ei llorio ar ôl darllen adroddiadau diweddar, ac wedi methu a chysgu am 36 awr o'r herwydd.

Roedd y ddynes wedi dweud nad oedd y camdriniaeth "i'r un graddau" â'r rhai sydd wedi cael eu hadrodd yn ddiweddar, ond eu bod wedi digwydd pan oedd hi'n eistedd wrth ochr Kotik ar fainc un tro.

"Fe roddodd ei law i fyny fy nhop. Yna fe aeth ei law lan fy nghefn ac o dan fy ysgwyddau. Nes i symud i ffwrdd wrtho'n sydyn iawn, ac fe wrthodais fynd yn agos ato ar ôl hynny."

Dywedodd y fenyw ei bod hi nawr yn ceisio penderfynu beth i'w wneud am ei rhieni, am ei bod hi wedi dweud wrthyn nhw am y digwyddiad ar y pryd, ond na wnaethon nhw unrhyw beth.

Roedd y Tad Kotik yn cyfeillio teuluoedd oedd yn ymweld â'r ynys yn aml. Yn ôl papurau llys, ar ôl ennill ffydd y rheini fe fyddai'n gwarchod eu plant, cyn mynd ati wedyn i'w camdrin yn rhywiol.

Yn y llythyr gan y Brawd o'Brien, dywedodd ei fod "yn ymwybodol o ddulliau Kotik" a'i fod wedi ei rybuddio "bod yr hyn yr oedd yn ei wneud i'r plant yn anghywir."

Ychwanegodd iddo "geisio cadw llygaid" ar Kotik, a'i fod yn "credu iddo wella am gyfnod".

Mae un o'r chwech dynes sydd wedi cael iawndal am yr hyn wnaeth Kotik iddyn nhw wedi dweud ei bod hi'n "difarru na chafodd ei garcharu am yr hyn wnaeth e."