Ildio 60 o ynnau yng Nghaerfyrddin mewn ymateb i amnest

  • Cyhoeddwyd
Gynnau gafodd eu hildio yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, PRIF AROLYGYDD STEVE THOMAS, HEDDLU DYFED-POWYS
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r casgliad gafodd ei gyflwyno i swyddogion yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin

Mae un person wedi ildio 60 o ynnau yng Nghaerfyrddin mewn ymateb i ymgyrch gan heddluoedd Cymru a Lloegr.

Am gyfnod o bythefnos hyd at 26 Tachwedd mae'r heddluoedd yn rhoi cyfle i bobl drosglwyddo gynnau neu fwledi heb wynebu cael eu herlyn.

Cafodd y gynnau eu cyflwyno gan unigolyn sydd wedi ei gofrestru i werthu drylliau.

Does dim rhaid i unigolion rhoi eu henwau wrth fynd â'u gynnau i orsafoedd heddlu yn ystod yr amnest.

Ar ei gyfrif Twitter, fe ysgrifennodd Steve Thomas, Prif Arolygydd Partneriaethau a Chymorth Heddlu Dyfed-Powys yn Sir Gaerfyrddin, bod heddiw'n "ddiwrnod prysur" i'r swyddog sy'n delio ag ymholiadau'n ymwneud â gynnau.

Mae'r awdurdodau'n credu bod llawer o bobl â hen ynnau yn eu meddiant heb wybod bod angen trwydded ar eu cyfer.

Yn ôl yr heddlu mae ildio gynnau nad oes eu hangen neu sydd heb drwydded yn osgoi'r posibilrwydd iddyn nhw ddod i law troseddwyr.

Yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf dair blynedd yn ôl, fe gafodd dros 6,000 o arfau eu trosglwyddo i orsafoedd heddlu.