Trefnwyr eisiau dod â gigs nôl i Lanberis
- Cyhoeddwyd
Mae criw o bobl ifanc wedi penderfynu mynd ati i drefnu gigs yn Llanberis er mwyn adfywio enw'r pentref fel lle i feithrin cerddoriaeth Gymraeg yn hytrach na fel canolfan i ddringwyr ac ymwelwyr yn unig.
Mae trefnwyr Gigs y Gilfach Ddu yn teimlo fod yr ardal a gynhyrchodd fandiau fel The Heights a Derwyddon Dr Gonzo, ac y canodd Hogia'r Wyddfa amdani, wedi colli ei bwrlwm cerddorol wrth i Gaernarfon ddenu'r sylw fel canolfan boblogaidd ar gyfer gigs.
Un o'r trefnwyr yw Marged Rhys, sy'n aelod o'r band Plu, ac yn dod o Fethel ger Caernarfon.
Er ei bod hi'n falch bod tref Caernarfon wedi dod yn 'hwb' ar gyfer gigs mae hi'n teimlo fod hynny "wedi digwydd ar draul pentrefi eraill".
"Roedd gigs yn arfer bod mewn llefydd fel Y Fricsan yng Nghwm y Glo, Penbont yn Llanrug a'r Bedol yn Bethel. Mae newidiadau wedi bod yn y sefydliadau yna, newid dwylo ac yn y blaen, a does dim byd wedi cael ei adfywio ers hynny," meddai.
"Mae pawb yn cymryd yn ganiataol fod gigs yn digwydd yng Nghaernarfon ac roeddan i wedi sylwi bod hwnna 'di mynd yn ormod o arferiad.
"Dwi'n clywed am sut roedd Padarn Roc yn arfar bod, sef yr ŵyl gerddoriaeth Gymraeg oedd yn Llanberis, mae'n amlwg ei bod yn arfer bod yn fyrlymus efo miwsig Cymraeg.
"Ond mae'n teimlo fel bod y lle wedi cael ei anghofio braidd oherwydd y diwydiant twristiaeth a'r dringo.
"Mae'n teimlo fel petai dyna ydi delwedd Llanberis rŵan, dim y bobl leol a'r diwylliant cerddorol sydd wedi bod yn rhan o'r lle."
Mae eu gig gyntaf yn cael ei chynnal yng Nghlwb Llanberis ar Ragfyr 28ain, 2017 gyda'r band lleol Alffa, Gwilym ac Y Reu.
Mae enw'r gigs yn adlewyrchu hanes diwydiannol yr ardal sy'n enwog am ei llechi - Gilfach Ddu oedd enw'r chwarel yn Llanberis.
Mae ardal Dyffryn Peris yn cynnwys Ysgol Uwchradd Brynrefail sydd wedi cynhyrchu cerddorion fel Alffa, sef band buddugol Brwydr y Bandiau 2017.
Mae'n siom, meddai'r trefnwyr, nad oes llawer o gyfleoedd i fandiau ifanc fel rhain fireinio eu crefft yn lleol.
Mae Gethin Griffiths a Chris Roberts o'r blog Sôn am Sîn yn gyn ddisgyblion yn Ysgol Brynrefail ac yn aelodau o'r criw trefnu hefyd.
Ysgrifennodd Gethin am yr angen i adfywio sîn gerddoriaeth fyw yr ardal leol ar y blog fis Mai 2017., dolen allanol
Ym mis Mai 2017 ysgrifennodd am ei atgofion o gigs "ychydig gamau o ddrws cefn y tŷ" pan oedd yn ei arddegau ond sydd bellach ddim ond yn digwydd yng Nghaernarfon.
"Rwy'n deall mai dim ond ychydig o filltiroedd sydd yn rhaid teithio yno, ond roedd yn braf meddwl, unwaith, eu bod nhw'n edrych tua'r ffordd yma am ysbrydoliaeth," meddai yn y blog.
"Er mwyn creu 'sîn' leol, fel un oedd yn bodoli'n honedig ym Methesda yn yr wythdegau, nid ffurfio grwpiau yn unig sy'n cyflawni'r nod. Mae'n rhaid cael rhwydwaith leol o leoliadau, cyhoeddiadau cyson... a'r hyder hunangynhaliol hwnnw sydd yn creu sîn leol, i fwydo'r sîn genedlaethol yn ei dro."
Efallai o ddiddordeb...