Treialu technoleg rhith realiti i drin ffibrosis systig
- Cyhoeddwyd
Yn y prawf cyntaf o'i fath ym Mhrydain, mae technoleg rhith realiti yn cael ei ddefnyddio i drin cleifion ffibrosis systig yng Nghymru.
I dynnu sylw claf oddi ar eu cyflwr, maen nhw yn gwisgo'r offer pen ac yn cael profiad o fod ar saffari, ac yn gallu symud o amgylch y gofod.
Y bwriad yw lleihau pryder a phoen ymysg dioddefwyr yn Ysbyty Llandochau yng Nghaerdydd.
Mae'r driniaeth eisoes wedi cael llwyddiant gyda chleifion sy'n derbyn cemotherapi yn Awstralia.
Canlyniadau positif
Mae ffibrosis systig yn gyflwr sy'n cael ei etifeddu, ac mae'n golygu bod yr ysgyfaint a'r system dreulio yn llenwi â llysnafedd gludiog trwchus.
Mae 400 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr.
Dros y pedair wythnos ddiwethaf mae'r dechnoleg wedi cael ei brofi, ac mae meddygon yn dweud eu bod wedi gweld canlyniadau positif.
Mae Anthony Phillips o Bort Talbot wedi bod yn ymweld â'r Ganolfan Ffibrosis Systig Genedlaethol i Oedolion yn Llandochau ers pum mlynedd.
Dywedodd ei fod o wedi mwynhau'r profiad: "Mae o'n tynnu'ch sylw chi ac yn mynd â'ch meddwl i rywle arall tra 'dych chi'n gwisgo'r offer."
Mae'r cyflwr yn effeithio ar nifer o organau ac mae cleifion yn aml yn cael triniaeth gymhleth, sy'n cymryd amser.
Yn ôl Beth Clarke o Splott yng Nghaerdydd, sy'n profi'r dechnoleg, mae'n "mynd â chi i rywle arall am ychydig funudau".
"Fydd aros yn yr ysbyty byth yn brofiad braf, mae'r staff yn wych, ond does neb yn mwynhau dod i'r ysbyty," meddai.
"Ond mae hi'n wych mynd i rywle arall yn eich meddwl am gyfnod byr."
'Profiad gorau posib'
Mae cynlluniau i ymestyn y prosiect yn ôl Matthew Wordley, prif swyddog gweithredu Orchard, y cwmni sy'n gyfrifol am y fenter.
Dywedodd bod y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn "gyffrous", gyda'r bwriad o "greu gwell profiadau wrth ddeall sut mae'r claf yn teimlo, a bwydo hynny yn ôl i mewn i'r system".
"Rydym yn edrych ar dechnoleg y gall pobl ei wisgo i fesur sut mae pobl yn teimlo ar y pryd a newid y profiad i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau posib," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017