Grantiau yn ‘help’ i gyrraedd y miliwn siaradwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru nawdd o £425,000 ar gyfer 26 o brosiectau "arloesol" er mwyn ceisio hybu'r Gymraeg.
Y bwriad, medd Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan, yw bod pobl yn teimlo'n "hyderus" wrth ddefnyddio'r iaith.
Mae'r llywodraeth yn dweud bydd y grantiau'n chwarae rhan yn eu targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dyma olwg fanylach ar rai o'r prosiectau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn £20,000 er mwyn datblygu technoleg rithwir.
Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyflwr dementia ymhlith rhai sy'n gweithio yn y maes, teuluoedd a ffrindiau.
Dywedodd Meilys Smith, un o Uwch Reolwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod: "Be' mae o'n olygu ydy'ch bod chi'n gallu rhoi person yn esgidiau rhywun 'efo dementia yn eitha' llythrennol bron.
"Wedyn maen nhw'n cael penwisg a set o controllers yn eu dwylo sydd yn gwneud i'w dwylo nhw edrych fel dwylo robotig bron."
"Dim ots lle maen nhw'n edrych, os fysa nhw'n troi rownd 360 gradd maen nhw yn y byd yna sydd wedi cael ei greu.
"Mae eu perception nhw o'r byd yna - be' maen nhw yn weld, be' maen nhw'n ei deimlo, sut maen nhw'n gweld gwahanol bethau - yn union yr un ffordd a sut fysa rhywun 'efo dementia yn eu gweld nhw."
Cwmni Galactig sydd yn datblygu'r senarios realistig, ac yn ôl Meilys mae'n "ofnadwy o bwysig" fod y dechnoleg ar gael i bobl yn eu mamiaith.
Ail fyw profiad
Eu gobaith yn y pendraw yw datblygu'r syniad fel bod person gyda dementia yn gallu mynd yn ôl i brofiad neu gyfnod yn eu bywydau.
"Trwy fynd â rhywun yn ôl i ryw gyfnod, maen nhw'n mynd i gofio fo, maen nhw'n hapus yno fo.
"Mae hwnna falla yn mynd i'n helpu ni hefyd o ran tawelu pryderon pobl a rhoi profiadau bywyd da iddyn nhw."
Y bwriad yw dechrau defnyddio a gwerthuso'r dechnoleg rithwir yn y flwyddyn newydd.
Bwriad prosiect Prifysgol Bangor yw galluogi pobl sydd mewn perygl o golli'u lleferydd, am eu bod gydag afiechyd fel canser y gwddf er enghraifft, i barhau i siarad Cymraeg gyda'u lleisiau eu hunain.
Bydd Canolfan Bedwyr yn defnyddio'r grant o £20,000 gan y llywodraeth i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau'r cleifion ac yn cynhyrchu fersiwn synthetig.
Dyma'r tro cyntaf y bydd y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg.
Defnyddio graffiti i feithrin hyder yn y Gymraeg y mae project arbennig yng Ngheredigion.
"Mae'n brosiect eithaf unigryw," medd Gethin Jones, prif swyddog ieuenctid y gwasanaeth i bobl ifanc yng Nghyngor Ceredigion.
£5,000 o nawdd mae'r awdurdod wedi derbyn ac fe fyddan nhw'n creu celf graffiti gyda phobl ifanc, rhai ohonynt sy'n fregus neu mewn perygl o beidio bod mewn gwaith neu addysg i geisio magu eu hyder yn yr iaith.
Ond mae Gethin yn dweud y bydd y prosiect yn agored i bawb.
"Wnaethon ni feddwl bydde celf graffiti yn rhywbeth unigryw, rhywbeth positif i ddatblygu Cymraeg rhai o'r bobl ifanc da ni yn gweithio gyda."
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal sesiynau er mwyn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth leol cyn bod y gwaith o greu'r murlun graffiti yn dechrau.
Codi hyder
"Falle er enghraifft fydd pobl ifanc Aberteifi moyn dangos y castell. Bydd Aberaeron moyn falle dangos yr harbwr.
"Y bobl ifanc fydd yn arwain y prosiect a gobeithio byddwn ni'n gallu gweld erbyn y diwedd bach mwy o hyder a bach mwy o ddealltwriaeth gyda'r iaith Gymraeg."
Tair ardal fydd yn elwa o'r prosiect - Aberteifi, Aberaeron a Phenparcau - gyda Theatr Felinfach yn ffilmio'r broses.
Y nod yw dangos y fideo a'r murluniau ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017