Dyn anabl wedi wynebu 'iaith anweddus' yng ngêm rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Beth FisherFfynhonnell y llun, Beth Fisher
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Beth Fisher yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd gyda'i hewythr Robin Hindle-Fisher

Mae dynes wedi cyhuddo cefnogwyr rygbi meddw o gam-drin ei hewythr anabl gydag iaith anweddus yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yn Stadiwm Principality.

Yn ôl Beth Fisher, oedd yn gwylio'r gêm gyda'i hewythr Robin Hindle-Fisher, roedden nhw'n darged i "iaith anweddus".

Fe gafodd ei ewythr, sydd â breichiau byr oherwydd thalidomide, ei gam-drin yn eiriol ar ôl iddo ofyn i gefnogwyr beidio â rhwystro ei olygfa o'r gêm.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymateb drwy ddweud eu "bod yn cymryd cwynion ynglŷn â phrofiad tu fewn i'r stadiwm o ddifri a byddwn yn ymchwilio i'r mater dan sylw gyda stiwardiaid y stadiwm".

'Problem ddifrifol'

Ychwanegodd Miss Fisher, 34: "Dydw i byth eisiau mynd drwy foment fel hyn eto. Mae wedi gwneud i mi beidio eisiau mynd i gêm rygbi eto.

"Ar ôl siarad gyda rhai pobl nid fi yw'r unig un sy'n credu bod hyn yn dechrau dod yn broblem ddifrifol."

Mae Miss Fisher wedi bod yn mynd i wylio Cymru'n chwarae ers yn blentyn, a dywedodd ei bod hi'n sylwi bod mwy o ddiwylliant yfed mewn gemau wedi datblygu dros yr wyth mlynedd diwethaf.

"Dwi wirioneddol yn pryderu gallai rhywun ddioddef anafiadau difrifol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Geraint Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Evans yn gwylio'r gêm gyda'i ferch Megan

Mae Geraint Evans, oedd yn dyst i'r digwyddiad, wedi ysgrifennu llythyr at Gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies yn cwyno.

Dywedodd Mr Evans, 57, bod y "gamdriniaeth anweddus o natur rywiol yn sôn am anabledd" Mr Hindle-Fisher.

Ni chlywodd Miss Fisher y sylwadau dan sylw ond dywedwyd wrthi ei fod "ynglŷn â'r ffaith fod ganddo anabledd gweladwy".

Fe gafodd y digwyddiad ei adrodd i stiward yn ystod y gêm, ond gan nad oedd y stiward wedi gweld y digwyddiad, nid oedd modd taflu'r dynion allan o'r stadiwm.

'Polisi alcohol llym'

Ychwanegodd Mr Evans fod gan Undeb Rygbi Cymru gyfrifoldeb i beidio â gwerthu alcohol i bobl yn y stadiwm sy'n amlwg yn feddw.

"Y pryder mwyaf yw'r gamdriniaeth o ddynes a dyn anabl, roedd yn warthus ac wedi peri gofid i mi," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae diogelwch a mwynhad cefnogwyr yn hollbwysig ac mae'r stadiwm yn gweithredu polisi trwyddedu alcohol llym iawn.

"Rydym wedi ein rhwymo'n gyfreithiol i beidio â gwasanaethu pobl sy'n ymddangos yn feddw ac rydym yn cyflogi cyn-swyddogion trwyddedu'r heddlu ar y safle i atgyfnerthu hyn.

"Yn ychwanegol, rydym yn cyflogi llawer yn fwy o stiwardiaid na beth sydd raid i ni o ran y drwydded, er mwyn monitro ymddygiad y dorf.

"Bydd ein stiwardiaid yn symud cefnogwyr allan o'r stadiwm os ydynt yn ymddangos yn feddw, achosi aflonyddwch i gyd-gefnogwyr neu'n ymddwyn mewn ffordd ble mae gofyn am ymyrraeth yr heddlu."