Llywodraeth Cymru yn mynd i agor mwy o swyddfeydd tramor

  • Cyhoeddwyd
The skyline of Montreal in CanadaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael swyddfeydd ym Montreal

Mae Llywodraeth Cymru yn ehangu ei phresenoldeb tramor mewn ymgais i gynyddu masnach yn dilyn Brexit.

Bydd swyddfeydd yn cael eu hagor yng Nghanada, Ffrainc, yr Almaen a Qatar y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn golygu y bydd gan y llywodraeth bresenoldeb mewn 20 lleoliad.

Ym mis Medi dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach bod ffigyrau'n awgrymu bod allforion Cymru i wledydd lle'r oedd ganddynt swyddfeydd wedi disgyn yn y gorffennol.

Ond dywedodd y llywodraeth efallai nag yw'r ystadegau yn cyflwyno darlun cywir.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, allforiodd Cymru gwerth bron i £16 biliwn yn y flwyddyn hyd at mis Mehefin 2017 - cynnydd o £2.39 biliwn ers y flwyddyn flaenorol, dolen allanol.

Allforion

  • O'r allforion hynny, mae'r mwyafrif yn parhau i gael eu hanfon i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (59.8%).

  • Yr Almaen (£3 biliwn) yw'r farchnad fwyaf ar gyfer nwyddau o Gymru, gyda Ffrainc (£2.6 biliwn), yr UDA (£2.3 biliwn), Iwerddon (£955 miliwn) a'r Iseldiroedd (£672 miliwn) yn dilyn.

  • Canada oedd y 9fed farchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru gyda gwerth £392 miliwn o nwyddau'n cael eu gwerthu yna a Qatar y 15fed mwyaf, gyda'r wlad yn mewnforio gwerth £172 miliwn o nwyddau.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu agor swyddfeydd newydd yn Berlin, Doha, Dusseldorf, Montreal a Pharis yn 2018. Mae timau tramor yn helpu allforwyr o Gymru gyda phenderfyniadau buddsoddi.

'Cynyddu presenoldeb dramor yn bwysig'

Mewn araith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nos Lun, mae disgwyl i'r prif weinidog Carwyn Jones ddweud bod "cynyddu ein presenoldeb yn y marchnadoedd allweddol hyn ...yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

"Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Dyna pam rydyn ni'n cynyddu ein presenoldeb yn Ewrop ac ar draws y byd, fel bod modd i ni gwrdd â buddsoddwyr newydd a'u denu i Gymru, a gwerthu cynnyrch Cymreig i gwsmeriaid dramor.

"Yn ogystal â chanfod cyfleoedd newydd a chyffrous, rydym yn gweithio'n galed i ddiogelu ein marchnadoedd presennol."

Mae disgwyl i Mr Jones ychwanegu: "Byddai gadael y farchnad sengl {yr Undeb Ewropeaidd} a phellhau oddi wrth farchnadoedd masnachu Ewropeaidd hollbwysig yn hynod o niweidiol i'n heconomi.

"Mae cynnal a chynyddu buddsoddiadau gan gwmnïau sydd eisoes wedi'u lleoli yng Nghymru yn hollbwysig i ni, a bydd cael adnoddau penodedig yn y gwledydd hyn yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd buddsoddi a ddaw yn sgil y marchnadoedd hyn."

Swyddfeydd newydd Llywodraeth Cymru: Montreal, Berlin, Dusseldorf, Paris a Doha.

Swyddfeydd presennol Llywodraeth Cymru: Chicago, San Ffrancisco, Atlanta, Washington, Efrog Newydd, Dulyn, Brwsel, Dubai, Mumbai, Bangalore, New Delhi, Chongqing, Shanghai, Beijing a Tokyo.

Yn y ddogfen Brexit a gyhoeddwyd ar y cyd â Plaid Cymru, dolen allanol, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chred bod "parhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol."

Mae Llefarydd Brexit Plaid Cymru Steffan Lewis wedi galw am "bolisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cwmpasu popeth o fasnach i ddatblygiad rhyngwladol".

Gwerth mynegai brand byd-eang?

Yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Lewis: "Fel cam cyntaf ar gyfer polisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd i Gymru, mae angen i ni fesur enw da byd-eang ein gwlad.

"Ar hyn o bryd, un o'r prif mynegai brand byd-eang ar gyfer cenhedloedd yw Anholt-GFX ac maent yn mesur enw da'r Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU ar wahân.

"Felly, a wnaiff y prif weinidog ceisio cael Cymru wedi'i chynnwys ar fynegai brand byd-eang y cenhedloedd hynny fel cam cyntaf o leiaf i ganfod ein henw da byd-eang. Gallai hynny wedyn arwain at bolisi rhyngwladol yn y dyfodol ar gyfer ein gwlad," ychwanegodd Mr Lewis.

Dywedodd y prif weinidog fod Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg "drud" yn y gorffennol ond "nad oedd hi'n glir a oedd yr hyn yr oedd e'n ei ddarparu yn cyfiawnhau'r gost".

Bydd Carwyn Jones yn cwrdd â llysgennad yr UDA i'r DU Robert Johnson yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Bydd Mr Johnson hefyd yn cwrdd ag arweinwyr busnes ac yn ymweld â safle y cwmni Americanaidd General Dynamics yng Nghaerffili.