Radio Cymru 2 i ddechrau darlledu ym mis Ionawr 2018

  • Cyhoeddwyd
RC2

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd gorsaf Radio Cymru 2 yn dechrau darlledu o ddydd Llun 29 Ionawr ymlaen.

Yn gynharach eleni daeth y cyhoeddiad y byddai ail orsaf yn cael ei lansio, fydd ar yr awyr bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol ac ap BBC iPlayer Radio.

Daw'r cynlluniau diweddaraf yn dilyn yr arbrawf welodd y BBC yn arbrofi gyda gorsaf dros dro, Radio Cymru Mwy y llynedd.

Bydd cyhoeddiad ynglŷn â chyflwynwyr yr orsaf newydd yn cael ei wneud nes ymlaen.

'Cwmni a chwerthin'

Does dim disgwyl i sioe frecwast newydd Radio Cymru 2 effeithio ar amserlen Radio Cymru ar FM a DAB yn y cyfamser.

Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf.

"Mae BBC Radio Cymru 2 yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r ffaith nad yw pob gwrandäwr yn gwirioni 'run fath," meddai Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru.

"Y cynnig fydd sioe frecwast hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin bob bore'r wythnos i'r rhai sydd eisiau hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pennaeth Radio Cymru, Betsan Powys wedi dweud fod yr orsaf newydd yn "ateb hen alw"

"Ac i'r rhai sydd ddim, ac sy'n mwynhau ac yn gwerthfawrogi'r rhaglenni newyddion ar Radio Cymru, fydd 'na ddim newid.

"Bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd - a nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast."

Mewn araith yng Nghanolfan Pontio, Bangor nos Lun, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies fod y datblygiad newydd yn dod yn ystod "cyfnod o arloesi ac arbrofi".

"Dros gyfnod o dair blynedd, mae BBC Cymru Fyw wedi dod yn ganllaw hanfodol i Gymru i fwy na 50,000 o bobl bob wythnos; mae BBC iPlayer wedi trawsffurfio sut mae modd gweld cynnwys ar draws Cymru; mae cyfres S4C Hansh yn torri drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel erioed o'r blaen a rŵan mae BBC Radio Cymru yn lansio ail wasanaeth digidol i gynnig dewis clir i wrandawyr.

"Mae'r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel. Ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach.

"Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o'r tirwedd cyfryngol newydd - yr iaith ar daith."