Trafod sefydlu atyniad ceir cebl yn Abertawe erbyn 2020

  • Cyhoeddwyd
ceir ceblFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ceir cebl yn dringo i frig Mynydd Cilfái, gyda golygfeydd dros Fae Abertawe

Mae cwmni gweithgareddau awyr agored mewn trafodaethau â Chyngor Abertawe ar gyfer datblygiad gwerth £70m allai weld ceir cebl yn cael eu gosod yn y bae.

Bwriad Skyline Enterprises yw sefydlu atyniad fyddai hefyd yn cynnwys gweiren zip, llwybr tobogan a bwyty ar frig Mynydd Cilfái erbyn 2020.

Y cwmni fyddai'n ariannu'r cynllun cyfan ond byddai'n rhaid iddyn nhw sicrhau caniatâd cynllunio gan y cyngor, a dod i gytundeb a thirfeddianwyr ar ran o'r mynydd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart y byddai'n un o'r atyniadau twristaidd gorau yn y DU ac y gallai greu cannoedd o swyddi.

Datblygiadau

Mae Skyline Enterprises, sydd o Seland Newydd a hefyd yn rhedeg atyniadau yng Nghanada, De Corea a Singapore, yw creu canolfan ar Fynydd Cilfái fyddai'n denu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Ychwanegodd prif weithredwr y cwmni, Geoff McDonald ei fod yn "edrych ymlaen at barhau gyda'r trafodaethau".

Mae Abertawe eisoes ar ganol cynlluniau gwerth £500m i ailwampio canol y ddinas fyddai'n cynnwys lleoliad digwyddiadau newydd, sŵ môr ac ardaloedd siopa newydd.

Mae safle cyn-weithfeydd copr Hafod hefyd yn cael eu hadnewyddu, ac mae'r cyngor yn dal i aros i glywed a fydd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo morlyn llanw gwerth £1bn yn y bae.