Bellfield 'wedi cyfaddef' llofruddiaethau Russell

  • Cyhoeddwyd
Levi Bellfield a Michael Stone
Disgrifiad o’r llun,

Mae Levi Bellfield a Michael Stone yn garcharorion yng Ngharchar Frankland yn Durham

Mae cyfreithwyr dyn sydd dan glo am lofruddio dau aelod o'r teulu Russell wedi rhyddhau manylion am gyfaddefiad honedig gan Levi Bellfield i'r drosedd.

Yn ôl cyfreithwyr Michael Stone, gafodd ei garcharu am lofruddio Lin Russell a'i merch Megan yn 1996, mae'r cyfaddefiad yn codi amheuon am ei euogfarn.

Cafodd Mrs Russell, 45, a Megan, chwech, eu lladd ychydig fisoedd ar ôl symud i Gaint o Ddyffryn Nantlle yng ngogledd Cymru. Fe oroesodd chwaer Megan, Josie, yr ymosodiad, er iddi ddioddef anafiadau difrifol.

Yr honiad yw bod Levi Bellfield, sydd yn y carchar am ladd tair merch arall, wedi dweud wrth garcharor arall iddo ladd Mrs Russell a Megan.

Mae Bellfield wedi rhyddhau datganiad drwy ei gyfreithwyr yn gwadu iddo ladd Mrs Russell a Megan, ac yn gwadu cyfaddef hynny.

Ffynhonnell y llun, REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bellfield dan glo am weddill ei oes am lofruddio tair merch

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Dr Lin Russell a'i merched wrth iddyn nhw gerdded adref o'r ysgol yn Chillenden ger Dover ym mis Gorffennaf 1996.

Cafwyd Stone yn euog wedi i garcharor honni ei fod wedi cyfaddef iddo ef y troseddau.

Ond mae Stone yn honni nad ef oedd yn gyfrifol am y marwolaethau.

Cyfaddefiad

Ddydd Mercher, fe wnaeth cyfreithwyr Stone ryddhau gwybodaeth newydd am gyfaddefiad honedig gan Levi Bellfield.

Bydd Bellfield dan glo am weddill ei oes am lofruddio tair merch - Milly Dowler, oedd yn 13 oed yn 2002, Marsha McDonnell, 19 yn 2003, ac Amelie Delagrange, oedd yn 22 yn 2004.

Fe geisiodd ladd Kate Sheedy, 18, yn 2004 hefyd gan ei tharo â cherbyd, ond fe wnaeth hi oroesi.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Shaun a Lin Russell gyda'u merched Megan (canol) a Josie (dde)

Yr honiad yw i Bellfield ddweud wrth cyd-garcharor yng ngharchar Frankland ei fod wedi ymosod ar y teulu Russell, gan roi llawer o fanylion am y digwyddiad.

Fe wnaeth y cyd-garcharor gymryd nodiadau am y cyfaddefiad, ac mae cyfreithwyr Stone yn honni eu bod yn cynnwys manylion fyddai ond yn hysbys i'r heddlu a'r llofrudd ei hun.

Yn ogystal, mae'r cyfreithwyr yn dweud bod llygad-dyst newydd wedi dod i'r amlwg, sydd wedi adnabod Bellfield fel dyn y gwelodd hi adeg y llofruddiaethau.

Mae cyfreithwyr Stone yn dweud bod digon o dystiolaeth i yrru'r achos i'r Llys Apêl.

Mae Bellfield wedi rhyddhau datganiad drwy ei gyfreithwyr yn gwadu iddo ladd Mrs Russell a Megan, ac yn gwadu cyfaddef hynny.

Cyfaddefiad 'manwl'

Mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd cyfreithiwr Stone, Paul Bacon, nad oedd tystiolaeth fforensig i gysylltu Stone gyda'r llofruddiaethau, a'i fod nawr wedi gweld "cyfaddefiad llawn gan Bellfield" sy'n disgrifio'r digwyddiad.

Honnodd Mr Bacon bod y cyfaddefiad yn esbonio "sut y gwnaeth ymosod arnyn nhw gyda morthwyl ac mae'n esbonio'r cymhelliad i'w lladd".

Ychwanegodd: "Mae'r cyfaddefiad yn fanwl ac mae nifer o ffeithiau sydd ddim yn gyhoeddus."

Hanes yr ymosodiad

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lin a Megan Russell eu lladd wrth iddyn nhw gerdded adref o'r ysgol

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Dr Lin Russell a'i merched wrth iddyn nhw gerdded adref o'r ysgol yn Chillenden ger Dover ym mis Gorffennaf 1996.

Fe glymodd yr ymosodwr ddwylo'r tair, rhoi mwgwd am eu llygaid a'u taro â morthwyl.

Pan gafwyd hyd iddyn nhw wyth awr yn ddiweddarach, roedd hi'n ymddangos bod y tair wedi marw.

Ond roedd gan Josie guriad calon gwan, ac fe lwyddodd i wella o'i hanafiadau.

Mae hi nawr yn gweithio fel artist yn y gogledd, ar ôl iddi symud yn ôl i Ddyffryn Nantlle gyda'i thad, Shaun wedi'r trychineb.

Achos Stone

Flwyddyn wedi'r digwyddiad, fe gysylltodd seicolegydd â rhaglen Crimewatch i awgrymu enw pwy allai fod yn gyfrifol, ac fe gafodd Michael Stone o Gillingham, oedd yn 36 oed ar y pryd, ei arestio o ganlyniad i hynny.

Cafwyd Stone - dyn oedd yn gaeth i heroin ac oedd â hanes troseddol - yn euog ym mis Hydref 1998.

Heb unrhyw dystiolaeth fforensig, fe gredodd y rheithgor brif dystion yr erlyniad - tri charcharor oedd yn honni bod Stone wedi cyfaddef iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Michael Stone yn euog o'r llofruddiaethau mewn ail achos yn 2001

Yn fuan wedi'r achos fe wnaeth un o'r rheiny gyfaddef ei fod wedi dweud celwydd, ac fe daflwyd amheuaeth ar dystiolaeth un arall.

Fe heriodd tîm cyfreithiol Stone yr euogfarn, gan arwain at ail achos.

Ond fe wnaeth un o'r carcharorion - Damien Daley, oedd yn 26 oed ar y pryd - gadw at ei honiad bod Stone wedi cyfaddef iddo.

Yn 2001, cafwyd Stone yn euog yn yr ail achos, cyn iddo fethu mewn dwy apêl yn erbyn ei euogfarn.

Nid dyma'r tro cyntaf i Bellfield gael ei gysylltu â llofruddiaethau'r teulu Russell.

Yn ymateb i'r datblygiad, dywedodd Heddlu Caint fod honiadau Stone ei fod yn ddieuog wedi cael eu profi'n anghywir gan y system gyfreithiol.

Yn ddiweddar, mae Stone a Bellfield, y ddau yn garcharorion yng Ngharchar Frankland yn Durham wedi cael ffrae gyhoeddus, sydd wedi cael eu hadrodd yn y papurau newydd.

Cafodd ymchwiliad teledu i'r digwyddiad - The Chillenden Murders ar BBC Two - ei ddarlledu ym mis Mehefin eleni, pan gafodd panel o arbenigwyr y cyfle i ailymchwilio'r dystiolaeth.

Daethon nhw i'r casgliad, er y datblygiad gyda DNA, nad oedd tystiolaeth fforensig i gysylltu Stone â'r llofruddiaethau, a'i bod yn debygol mai dyn arall oedd yno.

BBC Wales Investigates, 20:30 nos Iau ar BBC One Wales ac ar yr iPlayer ar ôl hynny.