Dim swyddfa Comisiynydd achos 'diffyg staff Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
TrawsCymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Comisiynydd Traffig yn gyfrifol am feysydd fel trwyddedu cwmnïau bysus

Mae Comisiynydd Traffig Cymru wedi dweud ei fod dal heb sefydlu swyddfa, flwyddyn ers cael ei benodi.

Dywedodd Nick Jones ei fod wedi cael trafferth wrth ddod o hyd i staff dwyieithog yng Nghaerdydd, a'i fod yn ystyried swyddfa yn y gogledd orllewin yn lle hynny.

Wrth roi tystiolaeth i ACau ychwanegodd ei fod yn amau fod cyrff cyhoeddus yn y brifddinas fel y BBC a Llywodraeth Cymru wedi "bachu llawer o'r siaradwyr Cymraeg da".

Dywedodd AC Llafur, Lee Waters ei fod wedi ei "syfrdanu" â'r sefyllfa.

'Dim staff, dim swyddfa'

Fe wnaeth y comisiynydd ei sylwadau i bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad ddydd Mercher.

"Does gen i ddim staff, does gen i ddim swyddfa," meddai Mr Jones, gan ddweud ei fod yn gobeithio penodi tri pherson.

"Y penderfyniad gwreiddiol oedd cael swyddfa yng Nghaerdydd gyda staff dwyieithog, ac fe ges i sicrwydd wrth gwrs bod modd recriwtio staff dwyieithog yn ardal Caerdydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Jones ei benodi i'r swydd yn 2016

Ond dywedodd fod y corff oedd yn gyfrifol am recriwtio - yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) - wedi methu â gwneud hynny.

Roedd hynny, meddai, yn debygol o fod oherwydd bod gan lawer o'r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd eisoes swyddi da.

"Oes mae siaradwyr Cymraeg, ond os oes rhaid i mi sefydlu swyddfa efallai y bydd hi'n haws gwneud hynny yng ngogledd Cymru ble mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg," meddai.

Ychwanegodd fod y trafferthion recriwtio hefyd wedi golygu nad oedd wedi gallu cyfieithu ei adroddiad blynyddol, gafodd ei gyflwyno i aelodau'r pwyllgor.

'Rhwystredigaeth'

Dywedodd Mr Waters, AC Llanelli fod yr adroddiad yn un "diddorol" ond nad oedd hyn yn "ddechrau da".

Ychwanegodd ei fod "wedi syfrdanu" nad oedd modd canfod staff Cymraeg "ym mhrifddinas Cymru sydd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad", a bod y "methiant i osod gwaith cyfieithu ar gytundeb yn eithaf sylfaenol".

Dywedodd y Comisiynydd Traffig y gallai'r cyfraddau tâl o bosib fod yn "broblem".

Mewn ymateb awgrymodd Mr Waters fod manteision mewn cael swyddfa yn y gogledd "er mwyn gwasgaru swyddi".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lee Waters byddai agor swyddfa yn y gogledd yn ffordd o wasgaru swyddi ar draws Cymru

Dywedodd Mr Jones: "Rydw i'n gwerthfawrogi eich bod chi'n rhannu fy rhwystredigaeth. Rydw i'n gweithio ar fy mhen fy hun yn llwyr, ac yn effeithiol."

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn "cydymdeimlo" â'i bryderon, a'u bod eisoes yn chwilio am safleoedd addas yn y gogledd ar gyfer swyddfa.

Cafodd Nick Jones ei benodi'n Gomisiynydd Traffig Cymru yn 2016, ar ôl bod yn gomisiynydd traffig dros Gymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng 2007 a 2016.

Mae'n gyfrifol am drwyddedau a chofrestriadau bysus a cherbydau nwyddau trwm.