Ystyried cymorth treth i adawyr gofal yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib mai Caerdydd fydd y cyngor nesaf yng Nghymru i eithrio pobl sydd newydd adael y system ofal rhag talu treth y cyngor am gyfnod.
Bydd cynghorwyr yn trafod y cynnig ddydd Iau.
Ym mis Hydref fe wnaeth Torfaen benderfynu o blaid eithrio rhai pobl rhag talu'r dreth.
Yn Nhorfaen, o fis Ebrill 2018 bydd rhai sy'n gymwys yn cael eu heithrio nes eu bod yn 21 oed.
Cefnogaeth y Comisiynydd Plant
Mae'r cynnig gerbron cynghorwyr Caerdydd yn cael ei gefnogi gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Mae adroddiad gan Gymdeithas Y Plant yn dweud fod pobl sy'n gadael gofal yn ei gallu ei chael yn anodd rheoli eu harian, a bod risg y gallant fynd i ddyled.
Dywedodd y gymdeithas y dylai pobl ifanc sy'n gadael gofal gael eu heithrio o dalu nes eu bod yn 25.
Ar hyn o bryd mae pob cyngor yn Yr Alban wedi eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu treth, ac mae 33 o gynghorau yn Lloegr wedi dilyn yr un trywydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017