Gwenno yn canu yn y Gernyweg a dyfodol yr iaith

  • Cyhoeddwyd
cernywFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi eisioes wedi ennill dilynwyr lu a gwobrau am ei recordiau Cymraeg ond rŵan mae gan Gwenno Saunders gasgliad newyddion o ganeuon - yn y Gernyweg.

Cernyweg yn un o chwaer-ieithoedd y Gymraeg, ac er ei bod ar un cyfnod wedi ei hystyried fel iaith farw, mae adfywiad diweddar yn golygu bod niferoedd sy'n ei siarad ar gynnydd.

Mae Gwenno a'i chwaer Ani yn siarad y Gernyweg. Mae eu tad Tim Saunders yn arbenigwr ar yr iaith ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau Cymraeg yn ei thrafod.

Cafodd Cymru Fyw air gyda Tim am sefyllfa'r Gernyweg a chasgliad diweddara' Gwenno o ganeuon yn yr iaith...

Sut wyt ti'n teimlo pan fydd Gwenno'n canu mewn Cernyweg?

Rwy'n ofnadwy o falch yn naturiol, ac mae hi wedi bod yn garedig iawn a dweud wrthaf am rywfaint am ei chynlluniau a sut mae hi'n dod i ben â nhw.

Allai'm dweud llawer am y cynnwys, ond un o'r themâu yw chwedl Lethowsow (Lyonesse) yng Nghernyw, sydd yn debyg i hanes Cantre'r Gwaelod.

Mae chwedl bod gwlad wedi bodoli i'r gorllewin o Penn an Wlas (Land's End), a taw'r Ynysoedd Syllani (Scilly Isles) yw copâu'r mynyddoedd. Felly mae Gwenno wedi bod yn edrych ar sefyllfa'r gwledydd coll a gofyn beth mae'r chwedlau yn ei ddweud am sefyllfa'r byd heddi.

Mae hi wedi teithio'r byd yn perfformio yn Saesneg gyda'r Pipettes, ac wedi canu yn helaeth yn y Gymraeg, ac wrth ddod adref odd hi'n meddwl bod hi'n bryd iddi ganu mewn Cernyweg (un o'i dwy iaith gyntaf) gyda'i gŵr Rhys, sy'n gynhyrchydd.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gwenno Saunders y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015

Pa mor iach yw sefyllfa bresennol Cernyweg?

Mae'r sefyllfa yn gwella, ond eto mae sefyllfa'r Gernyweg yn gwneud i'r Gymraeg edrych yn gadarn. Mae yna fwy o ymwybyddiaeth na phryd oeddwn i'n grwt, mae arwyddion dwyieithog i'w gweld yn amlach ac mae llawer mwy o bobl yn gwybod ychydig ymadroddion.

Mae i'w chlywed hefyd ar BBC Radio Cornwall gyda chyfarchion mewn Cernyweg, ac mae 'na orsaf radio Gernyweg ar y we sy'n darlledu unwaith yr wythnos - yn ddiweddar maen nhw'n darlledu teledu ar y we, unwaith y mis.

Beth yw'r sefyllfa yn gyfreithiol ac yn wleidyddol?

Yn gyfreithiol does dim statws o gwbl gan y Gernyweg. Yn wleidyddol, bellach mae hi 'di peidio bod yn fanteisiol i wleidyddion ddweud eu bod nhw yn erbyn y Gernyweg. Beth maen nhw'n ddweud bellach yw "does gen i ddim byd yn erbyn y Gernyweg, ond mae yna betha' pwysicach..."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Baneri Sant Piran, nawddsant Cernyw, ar y prom yn Aberfal (Falmouth)

Mae'r hinsawdd wedi gwella, ond mae 'na elfennau eitha' cryf yn y gyfundrefn addysg sy'n edrych ar y Gernyweg fel rhyw fath o glwyf y mae dyletswydd arnyn nhw i ryddhau'r plant ohono - eu bod yn gwneud cymwynas drwy wneud hyn. Dydyn nhw ddim yn ei ddweud e'n agored heddiw ond mae'r agwedd yn dal yna.

Mae cerddoriaeth wedi gwneud llawer i newid pethau. Roedd y gantores Brenda Wootton yn allweddol yn hyn. Roedd hi'n canu dros y byd, a lle bynnag oedd hi'n mynd roedd hi'n mynnu canu un gân o leia' mewn Cernyweg.

Beth yw'r cynlluniau i uno awdurdod Cernyw gyda de orllewin Lloegr?

Mae hyn yn hen diwn gron gan wleidyddion ers degawdau. Dydy Cernyw ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr i wleidyddon yn Whitehall. Maen nhw'n trio honni bod e'n haws rhedeg pethau o Fryste neu Caerwysg (Exeter)

Y pwynt yw bod y ffin rhwng Cernyw a Lloegr, yr Afon Tamar, yn mynd yn ôl dros fil o flynyddoedd - a dyma'r ffin fwyaf sefydlog yn Ewrop gyfan. Rydyn ni'n byw mewn amser ansefydlog a chythryblus, ac mae digon o gyffro yn y byd heb greu helynt newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Afon Tamar, sy'n nodi'r ffin rhwng Cernyw a Lloegr

Oes gan y Gernyweg a'r Gymraeg le i ddysgu gan ei gilydd?

Mae unrhyw welliant yn sefyllfa'r Gernyweg wedi bod yn llafur cariad.

Un o'r problemau gyda rhai sefydliadau a mudiadau yng Nghymru yw bod nhw'n mynnu talu cyflogau mawr i'w hunain o'r cychwyn cyntaf, a dydi hynny ddim am weithio. Yng Nghernyw, does dim unrhyw arian cyhoeddus yn y bôn.

Pan ti'n clywed unrhyw drafodaeth yng Nghymru ynglŷn â rhyw fenter, maen nhw'n gofyn at ba gorff Prydeinig ydyn ni am droi am arian. Os ydych chi'n derbyn arian gan y wladwriaeth mae 'na bris i'w dalu bob tro.

Wyt ti'n ffyddiog am ddyfodol Cernyweg?

Mwy ffyddiog nag o'n i. Dwi 'di cael profiad cwpl o weithiau o bobl yn clywed ni'n siarad Cernyweg ac yn ein deall ni.

Ar un adeg o'n i'n meddwl mod i'n 'nabod pawb sy'n siarad Cernyweg. Ond erbyn hyn, fydde ni'n eitha' carcus wrth gynnal sgwrs breifat yn y stryd mewn Cernyweg!