20 cangen NatWest i gau ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
nat west

Mae grŵp bancio RBS wedi cadarnhau bod 20 cangen yng Nghymru ymhlith oddeutu 250 ar draws Prydain fydd yn cau y flwyddyn nesaf.

Canghennau'r NatWest ydy'r rhai fydd yn cau yng Nghymru ym Mai a Mehefin 2018, ac mae'r mwyafrif yn ne Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran RBS bod y penderfyniadau i gau'r canghennau yn rhai "anodd" wedi newid "dramatig" ers 2012 yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn defnyddio'i gwasanaethau.

Does dim cadarnhad eto faint o bobl fydd yn colli eu swyddi yng Nghymru.

'Cwestiwn mawr' am y dyfodol

Dywedodd AS Ceidwadol Preseli Penfro Stephen Crabb y bydd y penderfyniad yn siom enfawr i gwsmeriaid NatWest yn Aberdaugleddau.

Mae o wedi ysgrifennu at brif weithredwr y banc yn mynegi pryder.

"O ystyried rôl arbennig [y banciau] o fewn cymunedau lleol, mae cwestiwn mawr yn codi ynghylch pa fath o rwydwaith canghennau fydd ar ôl mewn ardaloedd gwledig yn y blynyddoedd i ddod."

Yn ôl llefarydd RBS, mae 27% yn llai o fusnes yn y gangen o'i gymharu â 2012, a dim ond 58 o gwsmeriaid sy'n bancio dros y cownter yn wythnosol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cangen NatWest yn Rhydaman yn cau 21 Mehefin 2018

Yn Nolgellau, mae RBS yn dweud bod 10% yn llai o fusnes nac yn 2012 a dim ond 42 o gwsmeriaid sy'n ymweld â'r gangen yn rheolaidd bob wythnos.

Ond mae AS Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd yn cyhuddo'r cwmni o "droi cefn ar gwsmeriaid ffyddlon" ac yn gofyn am gyfarfod brys.

Mae Liz Saville Roberts yn apelio ar reolwyr i ystyried yr effaith ar dref lle mae'r diwydiant twristiaeth yn tyfu a nifer o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu.

"Dydy o ddim yn ddigon da i'r banc gynghori cwmseriaid i fancio ar-lein oherwydd rydym yn gwybod nad oes gan bawb gysylltiad dibynadwy i'r we, ac yn arbennig mewn ardaloedd gwledig," meddai.

'Trafferthion eto fyth'

Mae cynrychiolwyr Llafur etholaeth Ogwr yn dweud bod cau canghennau ym mhrif drefi'r etholaeth yn "ergyd enfawr" i gwsmeriaid a busnesau lleol, ac yn creu ansicrwydd i staff.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd yr AS Chris Elmore a'r AC Huw Irranca-Davies: "Mae hyn yn golygu cau banc olaf Pencoed, ac yn creu trafferthion eto fyth i drigolion ym Maesteg pan fo llawer o'r rheiny wedi symud i NatWest chwe mis yn ôl wedi i HSBC gau."

Mae'r cwmni'n rhagweld y bydd o gwmpas 680 o ddiswyddiadau ar draws Prydain o ganlyniad cau 197 o ganghennau NatWest a 62 o swyddfeydd Royal Bank of Scotland.

Mae rheolwyr yn gobeithio y bydd nifer o'r diswyddiadau yn rhai gwirfoddol.

Dyma'r canghennau fydd yn cau yng Nghymru:

  • Aberdaugleddau;

  • Aberteifi;

  • Arberth;

  • Llandaf, Caerdydd;

  • Tredelerch, Caerdydd;

  • Yr Eglwys Newydd, Caerdydd;

  • Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd;

  • Cas-gwent;

  • Dolgellau;

  • Llanbedr Pont Steffan;

  • Llandeilo;

  • Maesteg;

  • Penfro;

  • Pencoed;

  • Porthcawl;

  • Rhydaman;

  • Tonysguboriau;

  • Y Bont-faen;

  • Y Mwmbwls;

  • Ystâd Trefforest.