Carcharu Richard Thomas am lofruddio dyn anabl

  • Cyhoeddwyd
Richard ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Thomas nad oedd yn cofio'r digwyddiad

Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio dyn anabl drwy sathru ar ei ben.

Roedd Richard Thomas wedi honni fod Robert Young, oedd yn 53 oed, wedi syrthio ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol yn ei gartref yn Chwefror 2014.

Ond fe ddaeth archwilwyr fforensig o hyd i waed a gwallt Mr Young, oedd yn anabl ar ôl dioddef strôc, ar waelod esgid Thomas.

Bu farw Mr Young o ganlyniadau i anafiadau i'w ben.

Dim cymhelliad

Fe glywodd y rheithgor yn ystod yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful fis Tachwedd fod yr ymosodiad wedi bod yn un "milain ac anwaraidd", tra bod Thomas o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.

Hyd yma nid yw'r heddlu wedi darganfod a oedd cymhelliad i'r ymosodiad.

Roedd Thomas, o Dreharris, Merthyr Tudful, yn honni nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd am ei fod wedi yfed litrau o seidr cryf a chymryd 75 tabled valium.

Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog o lofruddiaeth, a fore Llun cafodd ei garcharu am oes, gyda'r cyfarwyddyd na fyddai modd iddo wneud cais am barôl am 10 mlynedd.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC: "Fe wnaethoch chi ymosod yn filain ar ddyn ar ôl i chi lyncu nifer fawr o dabledi valium.

"Fe wnaethoch chi gicio dyn oedd yn eich ystyried chi yn ffrind iddo, gan adael ei deulu mewn gwewyr ac mewn galar".