Brexit: 'Dim ffafrio rhai rhannau o'r DU' medd Jones

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na ddylai rhannau gwahanol o'r DU gael eu trin yn "fwy ffafriol nag eraill" mewn unrhyw gytundeb Brexit.

Roedd Mr Jones yn ymateb i adroddiadau bod Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar fin cyhoeddi ymrwymiad i gadw rheolau masnachu yn gyson rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl Brexit.

Dywedodd y Prif Weinidog ar Twitter: "Ni allwn ganiatáu i rannau o'r Deyrnas Unedig gael eu trin yn fwy ffafriol nag eraill.

"Os yw un rhan o'r DU yn cael aros yn rhan o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, yna rydym ninnau hefyd yn llawn ddisgwyl cael yr un cynnig."

Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai "unrhyw gytundebau arbennig" fydd ar gael i un rhan o'r DU hefyd fod ar gael i eraill, gan gynnwys Cymru.

'Dim eisiau gwahaniaethau'

Dywedodd ASE o Wlad Belg, Philippe Lamberts wrth Laura Kuenssberg o'r BBC fod y DU wedi gwneud cyfaddawd ar y ffin gydag Iwerddon.

Yn ôl Ms Kuenssberg, dywedodd Mr Lamberts fod y DU yn barod i dderbyn y gallai Gogledd Iwerddon barhau i fod yn rhan o undeb dollau a marchnad sengl yr UE mewn popeth ond enw, ond pwysleisiodd nad yw'r BBC wedi gweld y ddogfen ddrafft ac nad yw wedi cael ei arwyddo.

Ond yn y cyfamser dywedodd arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP), Arlene Foster na fydd ei phlaid yng Ngogledd Iwerddon - sydd mewn cytundeb i gadw Theresa May mewn grym yn San Steffan - "yn derbyn unrhyw ffurf o wahaniaethu rheoliadau" sy'n gwahanu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU.

Aeth ymlaen i gyhuddo Gweriniaeth Iwerddon o "geisio newid" amodau Cytundeb Gwener y Groglith ar eu pennau eu hunain, a hynny heb "fewnbwn na chydsyniad" y DUP.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai Cymru "gael yr un cynnig" â Gogledd Iwerddon, meddai Carwyn Jones

Mewn sylwadau pellach wrth BBC Cymru, dywedodd Carwyn Jones mai'r ateb oedd i'r DU gyfan aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau.

Dywedodd: "I mi y ffordd i ddelio gyda hyn yw dweud 'edrychwch, bydd y DU yn aros yn yr undeb dollau'. Mae hynny wrth gwrs yn golygu gall y ffin [rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon] aros fel y mae."

Roedd yn gamgymeriad i Theresa May wrthod cadw'r DU yn y farchnad sengl mor gynnar yn y broses, ychwanegodd.

"Adeg y refferendwm, doedd neb yn siarad am yr undeb dollau o gwbl," meddai.

"Mae defnyddio Norwy fel model - gwlad sydd yn y farchnad sengl ond y tu allan i'r UE - yn gwneud synnwyr perffaith."

Wrth ymateb i adroddiadau y gallai Gogledd Iwerddon gadw cysondeb o ran rheoliadau gyda'r UE, dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon nad oedd "unrhyw reswm ymarferol" pam na allai rhannau eraill o'r DU wneud yr un peth.

Ychwanegodd Plaid Cymru: "Gallai cyhoeddiad heddiw symud y ffin galed i arfordir Cymru. Fe allai hyn fod yn gatastroffig i borthladdoedd Cymru fel Caergybi, a fyddai o dan anfantais aruthrol o gymharu â'i chystadleuwyr."