Batiwr Morgannwg, Will Bragg yn ymddeol wedi salwch
- Cyhoeddwyd
Mae batiwr Morgannwg, Will Bragg wedi cael ei orfodi i ymddeol o griced ar ôl diodde' problemau iechyd.
Chwaraeodd Bragg, 31 oed o Gasnewydd, 111 o gemau dosbarth cyntaf a dwy gêm T20 i Forgannwg dros gyfnod o 11 mlynedd. Sgoriodd dros 5,500 o rediadau i'r clwb.
Dywedodd Bragg: "Roedd y tymor diwethaf yn un rhwystredig i mi'n bersonol, ac rwy'n credu mai nawr yw'r amser i mi gamu 'nôl o'r gêm."
Nid yw Bragg wedi llwyddo i ddatrys dirgelwch ei broblemau iechyd a ddechreuodd ar ddiwedd ei dymor mwyaf cyson i'r sir yn 2016.
Yn y tymor yna fe sgoriodd dros 1,000 o rediadau ar ôl symud i fatio yn rhif 3.
Dim ond llond dwrn o gemau a chwaraeodd ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn 2017 oherwydd salwch, ond cafodd rediad llwyddiannus o gemau yn y Cwpan Undydd gan gynnwys ei sgôr gorau erioed yn y gystadleuaeth o 94 yn erbyn Caint.
Ychwanegodd Bragg: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd, ac wrth i mi adael rwy'n gadael dim ond dymuniadau gorau i'r clwb wrth symud ymlaen."