Farage: 'Wedi fy syfrdanu pan blediodd Gill yn euog i lwgrwobrwyo'

FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Farage yng Nghymru ddydd Gwener ar drothwy isetholiad Caerffili

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi dweud ei fod wedi'i "syfrdanu" pan blediodd cyn-arweinydd ei blaid yng Nghymru yn euog i dderbyn llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia tra'n Aelod etholedig o Senedd Ewrop.

Fis diwethaf, plediodd Nathan Gill yn euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng 6 Rhagfyr 2018 ac 18 Gorffennaf 2019.

Wrth gael ei holi gan BBC Cymru a oedd e wedi cwestiynu Gill ynghylch y datganiadau, dywedodd Farage: "Doeddwn i ddim yn gwybod dim am y mater, y cyfan roeddwn i'n ei wybod oedd ei fod wedi bod yn Wcráin.

"Dywedais wrtho am beidio â mynd ond fe heriodd fi ac fe aeth. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddatganiadau ganddo."

Bydd Gill, a arferai fod yn wleidydd ym Mae Caerdydd, yn cael ei ddedfrydu ym mis Tachwedd.

Wrth ymgyrchu, ddydd Gwener, ar gyfer isetholiad Senedd Caerffili - sydd i'w gynnal ar 23 Hydref - fe wnaeth Nigel Farage ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf i achos llwgrwobrwyo Gill.

"Roeddwn i wedi adnabod y person yma ers amser maith iawn, roeddwn i'n ei adnabod yn Senedd Ewrop yn nyddiau UKIP fel Cristion hynod o grefyddol - rhywun y byddech chi'n meddwl amdano fel y person lleiaf llygredig allech chi fod yn ei adnabod," meddai.

Wrth gael ei holi a oedd yn gwybod am Gill yn gwneud datganiadau o blaid Rwsia, dywedodd Farage: "Doeddwn i ddim yn gwybod dim am hynny.

"Y cyfan roeddwn i'n ei wybod oedd ei fod wedi bod yn Wcráin. Dywedodd 'rydym yn mynd ar ymweliad ag Wcráin, ydych chi eisiau dod?'

"Atebais i 'rydych chi'n wallgof, dyma un o'r gwledydd mwyaf llygredig yn y byd, mae'n rhaid eich bod chi'n wallgof'.

"A dywedais wrtho am beidio â mynd.

"Fe heriodd fi ac aeth. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddatganiadau a wnaeth."

Mae bargyfreithiwr sy'n amddiffyn Gill wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd yn cael ei garcharu am ei droseddau.

Mae is-etholiad Caerffili ar gyfer bod yn aelod yn y Senedd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref wedi marwolaeth sydyn yr aelod Llafur, Hefin David, ym mis Awst.

Rhestr lawn yr ymgeiswyr

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig