Bwriadu agor Llety Arall Caernarfon erbyn y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Llety ArallFfynhonnell y llun, Llety Arall
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr adeilad tri llawr ar Stryd y Plas yng Nghaernarfon yn cynnwys 8 ystafell wely ac ystafell ymgynnull

Mae menter gymunedol wnaeth apêl am arian ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod yn gobeithio agor eu drysau i ymwelwyr erbyn Pasg 2018.

Erbyn dydd Mawrth roedd menter Llety Arall yng Nghaernarfon wedi llwyddo o godi dros £134,000, digon i'w caniatáu i ddechau ar y gwaith o droi adeilad ar Stryd y Plas yn lety fyddai'n hyrwyddo'r Gymraeg.

Yn ôl aelod o fwrdd Llety Arall, Menna Machreth, mae'r swm yma o arian wedi rhoi "y dechrau gorau posib i'r fenter".

Bwriad y fenter yw darparu llety yng nghanol tref Caernarfon "i dwristiaid a chyd-Gymry i gael profiad o dreftadaeth, diwylliant a natur ieithyddol Caernarfon".

Datblygiad 'cyffrous'

Dywedodd Menna Machreth: "Rydyn ni eisoes wedi casglu'r arian ar gyfer prynu'r adeilad, ac ry' ni yn y broses o wneud hynny ar hyn o bryd.

"Fe gawson ni'r caniatâd cynllunio sbel yn ôl, ond mae'r arian yma yn caniatáu i ni fwrw ymlaen syth bin gyda'r gwaith o addasu'r adeilad, ac rydyn ni eisiau agor tair ystafell erbyn y Pasg."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd y Plas eisioes yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr â Chaernarfon

Ychwanegodd: "Mae'n hollol overwhelming bod cymaint wedi buddsoddi, ac wedi'n cefnogi ni.

"Mae mor gyffrous bod cymaint ishe bod yn rhan o'r fenter, achos mae'n bwysig ei fod yn berchen i'r gymuned."

O dan y cynlluniau byddai wyth ystafell wely en-suite yn yr adeilad, ystafell ymgynnull, cegin fechan ac uned siop i'w osod.

Mae menter Llety Arall eisoes wedi sicrhau nawdd o £128,000 gan Lywodraeth Cymru a morgais ar gyfer yr adeilad.