Diffyg diagnosis achosion PTSD ôl-eni medd arbenigwyr

  • Cyhoeddwyd
PTSDFfynhonnell y llun, Getty Images

Dydy cannoedd o famau yng Nghymru sy'n dioddef o salwch meddwl ar ôl rhoi genedigaeth ddim yn cael y diagnosis cywir, medd arbenigwyr.

Mae menywod sy'n profi genedigaeth drawmatig mewn perygl o ddatblygu anhwylder PTSD, sy'n arwain at symtomau fel ôl-fflachiadau a gorbryder.

Mae'r Gymdeithas Trawma Geni yn amcangyfrif bod 1,000 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru'n datblygu PTSD wedi genedigaeth.

Ond dim ond 22 achos gafodd eu cofnodi gan ddau fwrdd iechyd y llynedd. Wnaeth eraill ddim darparu ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan raglen BBC Wales Live.

A dydy'r ffigyrau ddim yn cynnwys tadau sy'n dioddef o'r un anhwylder wrth fod yn dyst i enedigaeth drawmatig.

Yn ôl arbenigwyr, dim ond crafu'r wyneb mae'r ffigyrau, gan ddweud bod bydwragedd, meddygon teulu ac ymwelwyr iechyd yn aml yn methu ag adnabod yr anhwylder, neu'n rhoi cam ddiagnosis.

'Ynddo fe, yn ei ail fyw e'

Disgrifiad o’r llun,

Datblygodd Hannah Freimanis PTSD ar ôl geni ei dau fab

Un sydd wedi dioddef o'r anhwylder ydy Hannah Freimanis o Sir Gaerfyrddin, sy'n fam i ddau fachgen.

"Dydy e ddim fel edrych yn ôl ar brofiad fel cof - ry' chi ynddo fe, yn ei ail fyw e. Rydych chi'n profi'r holl emosiynau a'r ofn unwaith eto... mae e'n real iawn.

"Fe es i at y meddyg teulu a doedd dim unrhyw fath o gydnabyddiaeth mai PTSD oedd e.

"Roedden nhw'n cynnig tabledi gwrth-iselder, a dydych chi ddim eisiau cymryd tabledi gwrth-iselder achos ry chi'n gwybod nad iselder yw e, dyw e ddim yr un peth."

'Achosion eithafol'

Er bod y cyflwr yn cael ei gysylltu â milwyr sy'n dychwelyd o ryfel, gall unrhyw un ddioddef o straen wedi trawma os ydyn nhw'n ofni am eu bywydau eu hunain neu eraill.

Yr Athro Jonathan Bisson yw pennaeth canolfan gwasanaeth straen wedi trawma Caerdydd: "Mae rhai o'r achosion mwyaf eithafol o PTSD dwi wedi eu gweld yn rhai sydd wedi digwydd o ganlyniad i enedigaethau eithafol.

"Dwi hefyd wedi gweld llawer o dadau sy'n dioddef â PTSD yn dilyn genedigaeth drawmatig.

"Maen nhw'n sôn am ba mor ddiymadferth yr oedden nhw'n teimlo wrth wylio'u partner yn rhoi genedigaeth, gan wybod nad oedd pethau'n iawn a ddim yn gwybod beth i'w wneud."

Ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.5m y flwyddyn ar dimau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ar draws Cymru i gynorthwyo mamau sydd ag anghenion iechyd meddwl cyn ac ar ôl genedigaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r ffigyrau'n cynnwys tadau sy'n dioddef PTSD wedi genedigaeth drawmatig

Ond yn ôl Sarah Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru, mae lefel hyfforddiant meddygon teulu a bydwragedd ym maes iechyd meddwl amenedigol yn amrywio.

"Mae cael diagnosis yn dibynnu ar ddau beth - ydych chi'n dod i gysylltiad â swyddog iechyd sy'n deall problemau iechyd meddwl, a pha mor ddifrifol ydy e.

"Mae'n dibynnu a ydych chi mewn argyfwng, neu'n byw gyda rhywbeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae genedigaeth drawmatig neu fynediad i ofal ôl-eni yn cael ei ystyried yn ffactor sy'n tanio PTSD mewn rhieni.

"Byddem yn disgwyl i wasanaethau reoli PTSD drwy ddefnyddio canllawiau NICE."

Bydd rhagor ar raglen Wales Live ar BBC nos Fercher am 10:30.