Cyhoeddi enillwyr cronfa lansio Gorwelion
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi cyhoeddi pa artistiaid sy'n cael nawdd ganddyn nhw o'u cronfa lansio eleni.
Bydd 34 o enillwyr yn cael cyfran o gronfa gwerth £35,000. Yn eu plith mae Adwaith, Beth Celyn, Eadyth, Greta Isaac, Griff Lynch, HMS Morris, Omaloma a Siddi.
Bwriad y cynllun yw darparu artistiaid addawol sy'n gweithio yng Nghymru i gael hyd at £2,000 yr un i'w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a'u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddyn nhw i wireddu eu potensial.
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd rheolwr prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn, bod y cynllun yn fodd "o roi nawdd ymarferol i'r artistiaid i'w wario ar amryw o gynlluniau, fel mynd i mewn i'r stiwdio, hyrwyddo eu gwaith, neu weithio ar y cyd â rhywun arall.
"Mae gwneud unrhyw beth o fewn y maes cerddorol yn broses gostus," meddai.
"Mae mynd i stiwdio'n gostus, mae prynu offerynnau yn gostus, mae gwneud fideo neu dalu am rywun i wneud PR yn bethau costus, felly dy' ni jyst yn helpu rhywun i roi bach o eisin ar y gacen.
"Nhw sy'n gwneud y gwaith caled i gyd ar ddiwedd y dydd."
Un o'r enillwyr yw Beth Celyn ac esboniodd Bethan Elfyn ei bod hi wedi bod yn methu chwarae gigs yn ddiweddar oherwydd bod ei phiano wedi torri.
"Dyma ddangos mor ymarferol ydy'r nawdd, ac rydyn ni'n rhoi hanner cost y piano newydd, felly mae hi'n rhoi buddsoddiad ei hunan hefyd, ac felly bydd hi'n gallu chwarae lot mwy o gigs."
"Dwi mor falch y bydd Beth Celyn yn chwarae gig arbennig i ni heno yn Llandrillo."
Fe ymgeisiodd bron i 200 am y nawdd, gyda dau banel yn dewis yr enillwyr.
Dywedodd Branwen Williams o'r grŵp Siddi eu bod nhw'n mynd i wario'r arian ar recordio albwm fer.
"Dim ond fi a'm mrawd sydd yn Siddi," meddai, "ac mae'n albwm diwetha ni'n dangos hynny'n glir.
"Beth fydden ni'n licio ei wneud y tro yma ydy defnyddio cerddorion eraill, chwythbrennau ac offerynnau pres hefyd, felly bydd y nawdd yn mynd tuag at recordio albwm fer newydd gobeithio."
Mae disgwyl i'r albwm fod allan yng ngwanwyn 2018.
Gallwch weld rhestr lawn o'r enillwyr a rhagor o fanylion am gronfa lansio Gorwelion yma.