Achosion o glefyd y tafod glas wedi eu cadarnhau ym Mhowys a Sir Fynwy

Llun o wartheg mewn rhes yn bwyta glaswellt. Mae un yn edrych yn syth at y camera.
  • Cyhoeddwyd

Mae achosion o glefyd y tafod glas wedi eu canfod yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

Dywed Llywodraeth Cymru fod tafod glas math BTV-3 wedi ei ganfod ar ddau safle ym Mhowys a Sir Fynwy.

Daw cadarnhad pellach eu bod yn agos i Lanandras ym Mhowys a Chas-gwent yn Sir Fynwy.

Ym mis Mehefin, cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno ar symud da byw dros y ffin o Loegr i Gymru ond fe gafodd rhai cyfyngiadau eu llacio ar 21 Medi.

Mae'r llywodraeth yn annog perchnogion da byw i "annog pobl â da byw i barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn mesurau bioddiogelwch llym."

Dyma'r achosion cyntaf o'r feirws yng Nghymru eleni.

Roedd dau achos yn 2024 mewn defaid yng Ngwynedd a Môn a gafodd eu symud o ddwyrain Lloegr.

Mae'r clefyd yn cael ei wasgaru gan wybed (midges), ac nid yw'n fygythiad i iechyd dynol neu iechyd bwyd ond fe all effeithio'n fawr ar dda byw.

Fe wnaeth y llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau dadleugar ar symud da byw i Gymru o Orffennaf, er mwyn rhoi amser i ffermwyr i frechu eu hanifeiliaid.

Mae'r cyfyngiadau yma wedi cael eu llacio'n raddol, gyda defaid a gwartheg sydd wedi eu brechu yn cael yr hawl i symud yn fwy rhydd ers Medi 21.

Llun o'r amaethwr a llywydd undeb NFU Cymru, Aled Jones,
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Aled Jones, o undeb NFU Cymru, mai ei neges sylfaenol yw i ffermwyr gysylltu â'r milfeddyg os oes "unrhyw symptomau yn cael eu canfod".

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn, dywedodd Aled Jones o undeb NFU Cymru fod y sefyllfa yn "bryder".

"'Da ni wedi bod yn pwysleisio brechu'r anifeiliaid, ma' hynny yn digwydd ond eto dim ar yr un raddfa a fysen i'n dymuno ei weld."

Dywedodd fod y cyfyngiadau a ddaeth i rym wedi bod yn "beth doeth" ac roedd "angen ei wneud i atal ymlediad".

"Un peth sydd o fantais ar hyn o bryd yw ein bod yn agosáu at ddiwedd mis Medi," meddai, ac o ganlyniad gyda'r tymheredd yn oeri, bydd llai o wybed ar hyd y lle i gario'r clefyd.

Dywedodd mai ei neges sylfaenol yw i ffermwyr gysylltu â'r milfeddyg os oes "unrhyw symptomau yn cael eu canfod".

Roedd yn awyddus i weld ffermwyr yn brechu eu hanifeiliaid, ac er bod hynny yn costio, dywedodd mai "dyma'r unig ffordd i ddiogelu".

"Ar hyn o bryd os oes anifail yn profi'n bositif yna mae 'na ddigolledu yn digwydd hefyd, felly does dim rheswm i unrhyw ffermwyr beidio."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn annog perchnogion da byw i barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn mesurau bioddiogelwch llym.

"Yn yr un modd, rydym yn eu hannog i siarad â'u milfeddyg am y Tafod Glas, gan gynnwys brechu, ac i roi gwybod am unrhyw achosion amheus i APHA."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig