Dau aelod o giang yn euog o fasnachu merch 19 yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
achos caethwasiaethFfynhonnell y llun, Heddlu Llundain

Yn yr achos cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, mae dau aelod o giang o Lundain wedi eu cael yn euog o droseddau'n ymwneud â masnachu pobl, wedi iddyn nhw ddefnyddio dynes fregus i gludo a gwerthu cyffuriau o ogledd Llundain i Abertawe.

Yn Llys y Goron Abertawe, fe blediodd Mahad Yusuf, 20 oed a Fesal Mahamud 19 oed o Lundain yn euog i ddefnyddio person ifanc er mwyn ei hecsbloitio o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

Plediodd y ddau'n euog hefyd i gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 4 Ionawr 2018.

Canfod merch goll

Canolbwynt ymchwiliad yr heddlu oedd llwybr rhwng Llundain ac Abertawe oedd yn cael ei reoli gan giang stryd o Lundain. Tacteg y giang yw symud pobl o ddinasoedd fel Llundain i ardaloedd llai poblog er mwyn gwerthu cyffuriau yn lleol.

Ar 25 Mai, daeth swyddogion o uned Trident Heddlu Llundain gyda help Heddlu'r De o hyd i gyfeiriad yn Abertawe yr oedden nhw'n amau oedd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Cafodd gwarant ei chyhoeddi i chwilio'r adeilad, a chafodd merch fregus 19 oed o Lundain, oedd wedi bod ar goll, ei chanfod yno.

Trwy astudio sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol, dysgodd swyddogion Trident fod y giang wedi denu'r ferch i'w car ar ôl cyfathrebu gyda hi ar wefannau cymdeithasol, cyn ei gyrru i Abertawe.

Ar ôl cyrraedd, cyfarfu'r ferch a Yusuf, a ddwedodd wrthi ei bod hi nawr yn "eiddo iddo fe".

Cafodd ei ffôn ei ddinistrio a chafodd ei chadw yn yr adeilad am bum niwrnod. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd ei gorfodi i werthu cyffuriau dosbarth A yn erbyn ei hewyllus.

Achos ddim yn unigryw

Wrth i'r ddau droseddwr bledio ar y cyd, derbyniwyd mai Muhamad oedd yn rhoi gorchmynion i Yusuf.

Dywedodd llefarydd ar ran uned Trident fod y ferch wedi "dioddef yn ddychrynllyd dan law'r ddau ddyn, oedd wedi ei symud er eu budd troseddol nhw eu hunain.

"Yn anffodus, dydy'r achos hwn ddim yn unigryw o bell ffordd.

"Mae delwyr cyffuriau'n ecsbloetio pobl fregus ar draws y wlad drwy 'county lines'.

"Mae'r erlyniad hwn yn rhoi neges glir i unrhyw ddeliwr cyffuriau os ydych chi'n ecsbloetio pobl ifanc byddwn yn dod o hyd i chi, yn eich dwyn i gyfri a byddwch yn teimlo gwir rym y gyfraith."