Mae pawb yn trafod ystum nosweithiol Huw Edwards
- Cyhoeddwyd

Eiliadau sydd yna i fynd. 'Rych chi ar fin rhannu'r newyddion diweddara' i 10 miliwn o bobl. Sut ydych chi'n mynd i greu argraff o awdurdod ac ymddiriedaeth wrth i'r gerddoriaeth ddechrau?
Fel y gwelwch chi yn y llun, mae Huw Edwards, cyflwynydd BBC News at Ten, wedi perffeithio'r grefft. Bob nos mae ei fraich chwith wedi ymestyn a'i benelin dde ar y ddesg o flaen ei sgriptiau.
Ond fedrwch chi 'Wneud yr Huw', ffenomenon ddiweddara'r cyfryngau cymdeithasol?
Yn ddiweddar bu'r cyflwynydd yn dysgu criw o blant ysgol sut i eistedd yn awdurdodol wrth eu desgiau. Erbyn hyn mae fideo #DoTheHuw yn cael ei rhannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sut hwyl gewch chi? Beth am wneud fideo byr neu dynnu llun a'u hanfon at cymrufyw@bbc.co.uk
Gallwch eu hanfon hefyd trwy ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol neu rannu ar ein tudalen Facebook, dolen allanol.