Y gwaith o greu Coron Eisteddfod Caerdydd wedi dechrau
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith wedi dechrau i greu'r goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Laura Thomas o Gastell-nedd yw'r gemydd sydd wedi cynllunio'r goron. Mae hi'n rheoli gweithdy gemwaith cyfoes yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Mae hi hefyd yn creu ei chasgliadau gemwaith ei hun yn ogystal â chomisiynau pwrpasol.
Dyw Laura ddim am ddatgelu rhagor am y dyluniad ar hyn o bryd, ond mae hi wedi ei hysbrydoli gan sgiliau gwaith coed ei thad-cu.
"Byddaf yn mewnosod tri math o argaenau (veneers), sy'n deillio o America ac Ewrop, ond dwi ddim wedi penderfynu'n union ynghylch y tri ohonyn nhw eto," meddai.
"Bydd y Goron yn cynnwys tiwlip lliwiedig hefyd. Byddaf yn mewnosod yr argaenau â llaw, yna'n gosod yr arian er mwyn creu strwythur y Goron. Yn ogystal, mae gan y Goron fecanwaith addasu sy'n caniatáu ar gyfer pennau bach a mawr.
"Ro'n i wrth fy modd â gwersi gwaith coed yn yr ysgol. Y dyddiau hyn, mae argaen pren newydd yn fy nghyffroi mwy na phâr newydd o esgidiau!"

Cafodd nifer o'r patrymau geometregol sydd wedi'u cynnwys yn y goron eu creu'n arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd. Y Brifysgol hefyd sydd yn noddi'r gystadleuaeth.
"Daw fy ysbrydoliaeth o ddeunyddiau arloesol fel graphene a phaneli solar, ac rwy' wedi bod yn arbrofi gydag onglau a phatrymau.
"Mae fy ngwaith yn gymesur ac yn onglog bob amser. Bydd y Goron yn adlewyrchu hynny yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg fodern."
Mae disgwyl i'r goron fod yn barod erbyn mis Chwefror 2018.