Cwpan China: Beth all Cymru ei ddisgwyl yn y Dwyrain Pell?

  • Cyhoeddwyd
cwpan chinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru, China, Uruguay a'r Weriniaeth Tsiec - y pedair gwlad fydd yn rhan o'r gystadleuaeth

Mae'n deg dweud fod cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael tipyn o syndod yn gynharach yn yr hydref pan ddaeth sôn fod y tîm cenedlaethol am gael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn China.

Ond roedd gwirionedd i'r sïon, ac yn gynharach fis Rhagfyr fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) y byddan nhw'n chwarae yng Nghwpan China ym mis Mawrth 2018.

Mewn byd delfrydol gallai Cymru fod wedi defnyddio'r gemau cyfeillgar yma i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia yn yr haf.

Ond o leia mae'r trip i'r Dwyrain Pell o leiaf wedi rhoi rhywbeth i'r cefnogwyr, yn enwedig y rheiny sy'n hoff o ddilyn y tîm i rannau gwahanol o'r byd, edrych ymlaen ato ar ôl methu a chyrraedd Cwpan y Byd.

Pam Cwpan China?

Cystadleuaeth gwadd yw Cwpan China, ac mae'n adlewyrchu statws cynyddol Cymru yn y byd pêl-droed ers Euro 2016 ein bod ni wedi cael y gwahoddiad.

Y gwledydd eraill yn y gystadleuaeth, yn ogystal â China, fydd Uruguay a'r Weriniaeth Tsiec - dau dîm sydd hefyd yn uchel eu parch.

Bydd CBDC wedi derbyn y gwahoddiad yn rhannol am resymau ariannol, gyda disgwyl iddyn nhw gael ffi sylweddol am gymryd rhan (mae adroddiadau o Dde America wedi awgrymu y bydd Uruguay yn derbyn tua $2m, neu £1.5m, am fod yno).

Y fantais arall yw'r sylw y bydd Cymru'n ei gael o chwarae o flaen cynulleidfa deledu o ddegau o filiynau, yng ngwlad fwyaf poblog y byd, wrth herio China yn y rownd gynderfynol.

Nid Cwpan y Byd mohono, yn sicr, ond o ran taith genhadu allen nhw ddim fod wedi dewis lleoliad lawer gwell - peidiwch synnu petai ambell i wleidydd hefyd yn ceisio manteisio ar y cyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel Cymru, dim ond unwaith y mae tîm pêl-droed China wedi cyrraedd Cwpan y Byd, a hynny yn 2002

Profiad gwahanol

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Gymru chwarae yn erbyn China, heb sôn am fynd yr holl ffordd yno ar gyfer gêm.

Unwaith erioed y mae'r tîm pêl-droed cenedlaethol wedi teithio'n bellach ar gyfer gêm - Cwpan Kirin yn Japan yn 1992.

Y tro diwethaf iddyn nhw gymryd rhan mewn twrnamaint cyfeillgar oedd Cwpan y Cenhedloedd yn 2011, pan chwaraeon nhw yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Unwaith yn unig y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal, gyda diffyg diddordeb yn ffactor - ond mae'n oes wahanol bellach, ac mae'n bosib iawn y bydd gan Gymru fwy o gefnogwyr allan yn China nag oedd ganddyn nhw yn Nulyn chwe blynedd yn ôl!

Mae'r daith hefyd yn cynnal traddodiad diweddar CBDC o drefnu gemau cyfeillgar oddi cartref mewn lleoliadau deniadol a difyr i'r cefnogwyr - fel Paris, Stockholm, Amsterdam ac Efrog Newydd - yn y blynyddoedd diwethaf.

Cyfnod newydd

O ran materion ar y cae, y peth amlwg i'w nodi yw y bydd hi'n gyfle i gael cip cyntaf ar reolwr newydd Cymru.

Mae CBDC yn awyddus i benodi olynydd Chris Coleman erbyn mis Ionawr, mewn da bryd ar gyfer Cwpan China ac yna Cynghrair y Cenhedloedd yn hydref 2018.

Y gobaith yw y bydd yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc y garfan, gan barhau â'r broses a ddechreuodd Coleman yn ei gemau cyfeillgar olaf.

Ond mae'n bosib wrth gwrs y bydd mwy o bwyslais ar brofiad - ac ennill - gyda'r rheolwr newydd yn awyddus i blesio'r cefnogwyr yn sydyn a dangos mai fo oedd y dewis iawn.

Bydd llawer yn dibynnu ar argaeledd Gareth Bale, gyda'i glwb yn annhebygol o fod yn awyddus gadael iddo deithio hanner ffordd ar draws y byd ar gyfer dwy gêm gyfeillgar i bob pwrpas.

Ond mae atyniad seren Real Madrid yn rhan o'r rheswm pam fod Cymru wedi cael eu gwahodd - a byddai'n sicr yn helpu'r ymdrechion i hybu proffil ein gwlad tra'n bod ni yno.

'Y Ddinas Werdd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd digon o blanhigion a gwyrddni i'w weld yn Nanning

Bydd y gemau i gyd yn cael eu chwarae yn Nanning, mewn stadiwm sydd yn dal tua 60,000 o gefnogwyr.

Mae'r ddinas yn ne-orllewin y wlad â phoblogaeth o bron i saith miliwn - dros ddwywaith y nifer sy'n byw yng Nghymru.

Ond os 'dych chi'n meddwl bod hynny'n swnio fel lot, mae 'na dros ddau ddwsin o ddinasoedd eraill yn China sydd yn fwy na hi.

Dyw hi ddim yn lleoliad amlwg i ddewis cynnal y gystadleuaeth, yn enwedig o ystyried nad oes yr un tîm pêl-droed o'r ddinas yn agos at brif gynghreiriau China.

Dyn busnes, Wang Jianlin, sydd yn gyfrifol am leoli'r gystadleuaeth yno, ac mae ei gwmni Dalian Wanda eisoes yn weithredol iawn yn y byd pêl-droed - maen nhw'n berchen ar glwb Atletico Madrid, ac mae'n rhan o ymdrechion China i gynyddu ei phroffil yn rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth Nanning dros ddwywaith maint un Cymru, ac yn parhau i dyfu

O ran y ddinas ei hun, mae Nanning yn cael ei hadnabod fel 'Y Ddinas Werdd' oherwydd ei pharciau niferus, gyda'r tymheredd cyfartalog ym mis Mawrth tua 20C - swnio'n ddigon braf felly.

Ond peidiwch â disgwyl dod ar draws lawer o siaradwyr Saesneg - mae'n syniad dysgu ambell air a dywediad o Fandarin cyn mynd.

Bydd y bwyd hefyd ychydig yn wahanol i'r hynny 'dych chi wedi arfer cael yn eich tecawê lleol - digon o bethau Cantoneaidd eu naws, ond o bosib llai o sweet and sour na fyddech chi'n ei ddisgwyl!

Lle arall i fynd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid teithio'n eitha' pell o Nanning i weld atyniadau fel y Wal Fawr, Shanghai, y Fyddin Terracotta, a'r Ddinas Waharddedig yn Beijing

Bydd mynd i Nanning yn cymryd tipyn mwy o amser ac yn costio llawer mwy na thripiau oddi cartref arferol Cymru, felly mae'n naturiol y bydd unrhyw un sy'n mynd eisiau gwneud y mwyaf o'u hamser.

Ond mae'r ddinas yn bell o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y wlad i dwristiaid, fel Beijing a Shanghai, ac atyniadau poblogaidd fel y Wal Fawr a'r Fyddin Terracotta - felly os am weld y rheiny bydd angen hedfan ymhellach, neu stopio yno ar y ffordd.

Os 'dych chi'n chwilio am rywle agosach i fynd am ychydig ddyddiau fewn, mae dinasoedd fel Hong Kong a Macau, Guilin, ynys Hainan, a hyd yn oed Hanoi yn Fietnam, i gyd o fewn cyrraedd ar y trên neu wrth hedfan.

Beth bynnag fydd llwybr eich taith, mae un peth yn sicr - dyw cefnogwyr Cymru ddim yn mynd i gael trip fel hwn am sbel eto!