Galw am reolaeth fwy llym i atal tanau gwastraff
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw i reoli dros 570 o safleoedd ailgylchu ar draws Cymru yn llymach wedi nifer o danau difrifol.
Mae ymchwil BBC Radio Wales yn dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymchwilio i 123 o danau mewn canolfannau ailgylchu, ac roedd o leiaf 12 yn rhai difrifol.
Mewn 68 o achosion bu'n rhaid galw diffoddwyr tân ar gost o bron i £2m i'r gwasanaethau tân.
Dywed CNC bod rheolau llymach mewn grym ers mis Awst mewn perthynas â cheisiadau trwydded newydd, a'u bod yn gweithio gyda'r canolfannau er mwyn gwella diogelwch tân.
Colli ffydd
Ond yn ôl perchennog maes carafanau a thrac rasio ym Mro Morgannwg, a gollodd cwsmeriaid oherwydd pum tân ger Llandŵ ers 2013, mae prinder staff yn atal y rheoleiddiwr rhag mynd i'r afael â chanolfannau sy'n torri'r rheolau.
Bu'n rhaid i Sharon Evans gau'r busnesau am bythefnos ym mis Mawrth wedi tân ar safle Siteserv Recycling Ltd.
Mae hi'n dweud bod pum arolwg yn olynol wedi nodi peryglon tân posib cyn y digwyddiad.
Dywedodd: "Roedd CNC yn ymwybodol o'r peryglon. Mae'r adroddiadau [arolygu] rydw i wedi'u gweld yn rhybuddio am y risg o dân ac fe wnaethon nhw ddim byd amdano fe."
Dywedodd CNC eu bod wrthi'n paratoi gorchymyn cydymffurfio ar gyfer y cwmni pan ddigwyddodd y tân.
Cafodd trwydded y cwmni ei gohirio am rai misoedd, ond mae bellach wedi'i hadfer.
Dywed CNC eu bod yn dal i ymchwilio i'r digwyddiad ac fe allai camau pellach ddilyn. Mae hefyd yn llunio cynllun atal tanau gyda'r cwmni.
Ond mae Sharon Evans yn dweud ei bod wedi colli ffydd yn y rheoleiddiwr.
"Mae 'na lwyth o domenni gwastraff ar draws Cymru a dydyn nhw ddim yn cael eu rheoli'n iawn. Ni'n aros i ddamwain arall ddigwydd."
'Ffit i bwrpas?'
Yn ôl David Melding, AC Canol De Cymru a llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig, mae gwaith monitro safleoedd gwastraff yn "annigonol".
Ychwanegodd bod nifer y tanau ers 2012 yn destun pryder, gan alw am sicrwydd bod gan CNC yr adnoddau angenrheidiol i fonitro 577 o ganolfannau trwyddedig ar draws Cymru.
Mae cyllideb CNC wedi gostwng o bron i 40% yn y tair blynedd diwethaf, yn ôl llefarydd amgylchedd Plaid Cymru.
Dywedodd Simon Thomas, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae'r rhain yn doriadau sylweddol. Mae'n rhaid gofyn a yw'r rheoleiddiwr yn ffit i bwrpas."
Yn ôl yr aelod o Gyngor Prif Swyddogion Tân Cymru a Lloegr sy'n arwain ar faterion tanau gwastraff, mae'r cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu wedi arwain at fwy o bentyrrau gwastraff a mwy o beryglon tân, a chynnydd yn nifer tanau difrifol fel yr un yn Llandŵ.
Mae Mark Andrews yn galw ar reoleiddwyr i "weithredu'n fwy cadarn" gyda chwmnïau sy'n gwrthod cydymffurfio ag arferion "synnwyr cyffredin" fel osgoi pentyrru gwastraff yn rhy uchel, a gadael gofod rhwng y pentyrrau i hwyluso gwaith ddiffoddwyr tân.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi mwy o arian i CNC er mwyn gweithio'n uniongyrchol gyda gwasanaethau tân er mwyn atal tanau gwastraff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2013