Eira: Ysgolion ar gau ond gwaeth i ddod ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae gyrwyr a theithwyr trên yn cael eu cynghori i chwilio am y rhybuddion tywydd diweddaraf cyn dechrau yn dilyn eira a rhew dros rannau o Gymru.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn o 00:05 ddydd Gwener i 18:00 ddydd Sadwrn.
Ond mae gwaeth i ddod wrth i'r Swyddfa Dywydd hefyd gyhoeddi rhybudd oren am eira ddydd Sul.
Y disgwyl mai siroedd y gogledd fydd yn cael eu heffeithio waethaf ddydd Gwener a dydd Sadwrn, gyda hyd at 20cm yn bosib mewn mannau.
Bu rhan o'r A55 rhwng Llanelwy a Phantasa yn Sir Ddinbych bellach ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn dilyn sawl gwrthdrawiad, ond mae bellach wedi ailagor.
Ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am eira dros rannau helaeth o Gymru ddydd Sul, dolen allanol.
Fe ddywed y rhybudd fod cyfnod o eira trwm yn debygol dros siroedd y gogledd a'r canolbarth yn bennaf rhwng 04:00 a 18:00 ddydd Sul.
Mae oedi ar deithiau i yrwyr, teithiau trenau ac awyrennau heyfd yn debygol, ynghyd â cherbydau'n mynd yn sownd a chanslo trafnidiaeth gyhoeddus.
Maen nhw hefyd yn dweud bod tebygrwydd y bydd rhaid cymunedau gwledig yn cael eu hynysu wrth i o leia' 10cm o eira ddisgyn.
Mae cynghorau wedi bod yn graeanu ffyrdd dros nos, ond mae oedi'n bosib ar ffyrdd, rheilffyrdd ac mewn meysydd awyr.
Mae'r eira wedi dechrau disgyn yn drymach yn ystod y bore, gan olygu amodau gyrru gwael mewn sawl ardal.
Mae dros 170 o ysgolion cynradd ac uwchradd eisoes wedi cau, yn bennaf yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ond hefyd yn Sir Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili.
Mae manylion yr ysgolion sydd wedi cau ar gael ar wefannau'r cynghorau:
Mae rhai ffyrdd eisoes wedi eu heffeithio, gyda ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Gilwern a Merthyr Tudful am gyfnod oherwydd eira ac amodau peryglus, gyda dwy lori wedi plygu yn eu hanner.
Mae'n golygu fod gwaith oedd i fod i gael ei wneud ar y ffordd rhwng Brynmawr a Gilwern dros y penwythnos bellach ddim am ddigwydd.
Mae'r eira hefyd wedi creu amodau gyrru anodd ar yr A55, yr A494 rhwng Rhuthun a Dinbych, y B4501 rhwng Cerrigydrudion a Llyn Brenig, a'r A4061 rhwng Hirwaun a Threherbert.
Mae rhywfaint o eira hefyd ar lawr mewn mannau fel Ponterwyd yng Ngheredigion, Llangurig ym Mhowys, a Deiniolen yng Ngwynedd.
Dywedodd cynghorau siroedd y gogledd eu bod wedi paratoi am y tywydd garw, ond mae'n bosib i gyflenwadau ynni ardaloedd gwledig gael eu heffeithio hefyd.
Fe fydd manylion am ysgolion yn cau ar gael ar wefannau y rhan fwyaf o gynghorau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyngor Trenau Arriva Cymru, dolen allanol i deithwyr yw chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf cyn dechrau'r daith.
Nid yw Maes Awyr Caerdydd, dolen allanol yn disgwyl unrhyw oedi, ond maen nhw'n cynghori teithwyr i ddilyn y cyngor diweddaraf ar eu gwefan.
Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio cwsmeriaid y gallai pibelli rewi gan achosi difrod.