Cymeradwyo arian ar gyfer canolfan iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer canolfan iechyd newydd yn Aberteifi, Ceredigion.
Golygai'r cytundeb ffurfiol y bydd y gwaith yn dechrau ar hen safle'r Baddondy yn ystod gwanwyn 2018.
Mae disgwyl i'r ganolfan gwerth £23.8m agor ddiwedd 2019, diolch i £23.8m
Fe fydd y ganolfan yn cynnwys meddygfa, gwasanaeth deintyddol a fferyllfa .
Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y trydydd sector, yr awdurdod lleol a sefydliadau partner.
Bydd rhain yn cynnwys
Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Gwasanaeth Mân Anafiadau gyda chysylltiad telefeddygaeth at yr Adran Frys
Mwy o wasanaethau diagnostig gan gynnwys asesiadau cyn llawdriniaethau
'Agosach i'w cartrefi'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'n bleser cyhoeddi'r cyllid ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r gofal mae pobl ardal Aberteifi yn ei dderbyn, yn agosach i'w cartrefi ac yn eu cymunedau.
"Mae'n rhaid i bobl gael eu trin mewn canolfannau modern, ac fe fydd y prosiect hwn yn helpu i wella'r ddarpariaeth gofal iechyd yn y gymuned, y cyfan dan un to."
Dywedodd Cyfarwyddwr Sirol Cymru Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Peter Skitt: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gytuno'n ffurfiol i brosiect Canolfan Aberteifi. Dyma benllanw sawl blwyddyn o waith i sicrhau bod modd i ni ofalu am gleifion Aberteifi mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy ac integredig drwy ddarparu canolfan sy'n addas i'r diben nawr ac ar gyfer y dyfodol.
"Rydyn ni'n cydnabod bod y broses gynllunio wedi bod yn go hir a llafurus ar adegau, ond roedd yn hanfodol gwneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei wneud yn iawn y tro cyntaf.