Pryder ymgyrchwyr fod pobl yn colli cerbydau anabledd

  • Cyhoeddwyd
Man parcio ar gyfer yr anablFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen wedi dweud eu bod yn pryderu am bobl sydd wedi colli cerbydau, cadeiriau olwyn neu sgwteri dan reolau anabledd newydd.

Dan delerau cynllun Motability mae pobl anabl yn cael defnyddio rhan o'u budd-daliadau i gael cerbydau wedi eu haddasu'n arbennig, cadair olwyn â motor neu sgwter ar les.

Ond mae un elusen yn dweud nad yw bron i hanner yr unigolion oedd yn gallu manteisio ar y cynllun yn gymwys erbyn hyn.

Mae'r Adran Waith a Phensiynau'n anghytuno â'r ffigyrau a roddwyd i BBC Cymru gan Motability, gan ddweud bod mwy o bobl yn cael lefel uwch o gymorth na dan yr hen drefn.

'Isel'

Pobl sy'n gymwys i dderbyn cymorth lefel uchaf PIP sy'n cael cyfnewid rhan o'u budd-dal i rentu car, sgwter neu gadair olwyn â motor.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys yswiriant am ddim, ac yn talu am waith cynnal a chadw.

Dywed Motability bod tua 44,000 o bobl yng Nghymru yn ei ddefnyddio.

Ond maent yn dweud fod eu ffigyrau yn dangos nad yw 45% o'r bobl oedd yn arfer elwa o'r cynllun yn gymwys ar ôl cael eu hailasesu.

Dan newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd yn 2013, daeth y Lwfans Byw I'r Anabl (DLA) i ben, gan olygu bod unigolion anabl o oedran gwaith yn gorfod ceisio am fudd-dal Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP).

'Fel colli aelod o'n nheulu'

Mae Charlie Evans, 58 o Gaerfyddin, yn dibynnu ar Motability ers 1992.

Mae ochr dde ei gorff wedi'i barlysu o ganlyniad i niwed i'w ymennydd pan yn ifanc, a dywedodd ei fod yn teimlo'n anobeithiol pan glywodd y byddai'n colli'i gar.

Dywedodd: "Roedd o fel colli aelod o'n nheulu.

"Ro'n i mor isel doeddwn i ddim mo'yn gweld neb na siarad 'da neb am wythnosau."

Colli annibyniaeth

Yn ôl cyfarwyddwr mudiad Anabledd Cymru mae hyd at 100 o bobl yr wythnos yn gorfod ildio'u cerbydau.

Mae Miranda Evans ei hun wedi gorfod dychwelyd ei char: "Mae'n amhosib yn aml i bobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae'n hanfodol cael cerbyd. Hebddo, maen nhw'n colli'u hannibyniaeth."

Mae'r gost yn peri trafferthion i rai, fel George Lockett, 63, o Nantlle yng Ngwynedd. sy'n aros ers 18 mis am wrandawiad ar ôl apelio am yr eildro yn erbyn ei ailasesiad.

Defnyddiodd dri cherdyn credyd i brynu ei hen gar am £6,500, ac mae wedi talu £1,000 mewn costau cynnal a chadw ers hynny.

Dywedodd bod ailasesiadau "dinistrio bywydau pobl" ac yn "costio mwy" i'r llywodraeth ddelio ag apeliadau.

Ffynhonnell y llun, PA

O'r holl achosion tribiwnlys yn ymwneud â budd-daliadau sy'n cael eu cyfeirio at Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r nifer fwyaf yn ymwneud ag apeliadau PIP.

Roedd 79,943 o wrandawiadau yn 2016/17, ac yn 65% o'r achosion roedd y canlyniad o blaid yr unigolyn anabl.

Ond yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau, 2.6 miliwn o benderfyniadau PIP sydd wedi bod ers 2013 a chanran fach iawn oedd yn ymwneud â chynllun Motability.

Dywedodd llefarydd: "8% yn unig o'r penderfyniadau aeth i apel, a 4% gafodd eu gwrthdroi - yn bennaf am fod pobl yn cyflwyno mwy o dystiolaeth.

"Mae mwy o ymgeiswyr yn derbyn y lefel uwch o gymorth dan PIP na dan DLA."