Cyhoeddi cynllun economaidd newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun economaidd newydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer Cymru fydd yn para degawd.
Mae'r cynllun yn cynnwys symleiddio cymorth ariannol ar gyfer busnesau, lleihau'r nifer o sectorau sydd wedi eu blaenoriaethu a rhoi "mwy o rym" i' ranbarthau.
Bydd rhaid i'r cwmnïau sy'n gwneud cais am grantiau ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon, profi eu bod yn cyflogi pobl yn deg a hyrwyddo iechyd ac addysg.
Mae'r cynllun yn cydnabod bod tŵf wedi bod yn anghyson dros Gymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates mai datblygu "perthynas newydd a dynamig" rhwng y llywodraeth a busnesau sydd wrth wraidd y cynllun.
Os bydd busnesau yn cyd-fynd a'r ymrwymiadau, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn busnes a "chefnogaeth busnes symlach, unedig a chystadleuol".
Prif nodweddion y cynllun:
Lleihau'r sectorau sydd wedi eu blaenoriaethu o naw i dri - uwch ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, gwasanaethau masnach a'r sector ynni ac amgylchedd;
Pedwar sector sylfaen - twristiaeth, bwyd, gofal a manwerthu;
Bydd cyllid o £100m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru yn mynd i gronfa economaidd newydd, gyda busnesau yn gorfod cyflawni o leiaf un o'r gofynion o ran arloesi, ymchwil a datblygu ac allforio;
Bydd tri phrif swyddog yn gofalu am ddatblygiad economaidd yng ngogledd Cymru, de orllewin Cymru a'r canolbarth a de ddwyrain Cymru, drwy weithio gyda chytundebau twf busnes sy'n bodoli'n barod, cynghorau sir a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Mae'r strategaeth hefyd yn awyddus i gael mwy o gynllunio rhanbarthol, o ran cartrefi a thrafnidiaeth, gyda disgwyl i gynghorau lleol cyfagos weithio gyda'i gilydd yn agosach.
Mae'r cynllun hefyd yn cyfuno byrddau cynghori a phaneli sector Llywodraeth Cymru yn un.
Gyda'r sectorau sydd wedi eu blaenoriaethu, mae'r strategaeth eisiau gweld mwy o "hyblygrwydd," drwy gydnabod bod y ffiniau rhyngthyn nhw yn "aneglur".
Mae gobaith bydd y newidiadau yn cael ei gweithredu ym mis Ebrill 2018.
Ychwanegodd Mr Skates mai'r bwriad yw cael y blaen ar y newidiadau sy'n dod yn sgil y "pedwerydd chwildro diwydiannol" - sef robotiaid ac AI - drwy wneud yn siŵr fod pobl a busnesau yng Nghymru yn barod "i wynebu'r dyfodol yn hyderus".