Cyngor Llyfrau Cymru'n 'tanseilio'r diwydiant'

  • Cyhoeddwyd
Cwyn Cyngor Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hazel Cushion yn berchennog ar siop lyfrau a chwmni cyhoeddi yng Nghaerdydd

Mae perchennog siop lyfrau a chwmni cyhoeddi wedi cyhuddo'r Cyngor Llyfrau Cymru o "danseilio" y diwydiant.

Dwedodd Hazel Cushion, sy'n rhedeg Accent Press a siop lyfrau Octavo yng Nghaerdydd, ei bod wedi ei siomi â chynlluniau'r cyngor i agor siop dros-dro yn agos i'w busnes.

Dywedodd bod y corff yn gweithredu mewn ffordd sy'n bell o realiti y byd gwerthu llyfrau, gan honni bod gan y sefydliad agwedd "blwyfol" tuag at y llyfrau Cymreig maen nhw'n dewis eu hyrwyddo a'u dosbarthu.

Dwedodd prif weithredwr y Cyngor Llyfrau eu bod bellach wedi canslo agoriad ei siop dros-dro yng Nghaerdydd, ond amddiffynodd y polisïau dethol a dosbarthu llyfrau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cyngor Llyfrau wedi trefnu agor siop dros dro o fewn canllath i siop Octavo's

Agorodd Hazel Cushion siop lyfrau a chaffi Octavo's ar Orllewin Stryd Bute yng Nghaerdydd yn 2016, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Siop Lyfrau Annibynnol y Flwyddyn yn 2017.

Sefydlodd Accent Press yn 2003, sy'n cyhoeddi ystod eang o lyfrau ffuglen a ffeithiol yn Saesneg.

Dwedodd Ms Cushion iddi ddod i wybod am gynlluniau'r cyngor i agor siop dros-dro yng Nghaerdydd trwy e-bost, a dim ond pan ofynnodd am wybodaeth bellach y daeth i'r amlwg y byddai'r siop ond 100 llath o'i busnes.

"Byddai wedi bod yn fygythiad mawr, oherwydd bod y Nadolig yn gyfnod allweddol ar gyfer gwerthu llyfrau, ac mae llawer iawn o siopau llyfrau yn dibynnu ar y cyfnod hwn i'w cynnal drwy'r flwyddyn," meddai Ms Cushion

"Yn amlwg, rydym yn gwsmer Cyngor Llyfrau Cymru, rydym yn prynu ein holl lyfrau yn yr iaith Gymraeg, a llawer o'r llyfrau a gyhoeddir yng Nghymru, yn uniongyrchol gan y Cyngor Llyfrau.

Disgrifiad,

Cefnogi llyfrau o Gymru a llyfrau Cymraeg yw gwaith y Cyngor medd Helgard Krausse

"Roedd hi'n syndod mawr i mi - tebyg i gyflenwr cig yn sefydlu siop yn gwerthu twrcis drws nesaf i un o'i brif gwsmeriaid.

"Rwy'n teimlo bod hyn yn dangos faint maen nhw wedi datgysylltu o'r realiti o werthu a chyhoeddi llyfrau yng Nghymru."

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllideb i'r Cyngor Llyfrau i ddosbarthu grantiau i gyhoeddwyr sy'n cynhyrchu llyfrau gan awduron Cymreig, neu sydd â thema Gymreig, ac mae Ms Cushion wedi cwestiynu "pam fod arian y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio i danseilio siop lyfrau annibynnol".

Mae'r cyngor hefyd yn rhedeg canolfan ddosbarthu sy'n darparu stoc o lyfrau Cymreig ar gyfer siopau llyfrau annibynnol a rhai archfarchnadoedd.

Dywedodd y prif weithredwr, Helgard Krausse, ei bod wedi canslo cynlluniau ar gyfer siop dros-dro yng Nghaerdydd ar ôl derbyn cwyn gan Ms Cushion, ac wedi ymddiheuro wrthi, ond dywedodd fod siop dros dro wedi gweithredu'n llwyddiannus ym Machynlleth.

"Y bwriad oedd i'r lleoliad gwreiddiol fod yng nghanol Caerdydd, a byddai Hazel ei hun wedi croesawu siop dros dro er enghraifft yn y llyfrgell ganolog.

"Roedd hi i fod i ddigwydd am ychydig wythnosau ym mis Rhagfyr ond naethom ni fyth barhau ag ef oherwydd yr hyn a ddywedodd Hazel wrthyf."

Beirniadu cylch gorchwyl

Mae Hazel Cushion hefyd wedi beirniadu dehongliad Cyngor Llyfrau Cymru o'i gylch gorchwyl, sy'n datgan bod rhaid "hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau".

Dywedodd Ms Cushion bod ei chwmni cyhoeddi "wedi cael cyfarfod gyda Chyngor Llyfrau Cymru ac fe ddywedon nhw wrthym i beidio â chyflwyno unrhyw wybodaeth am lyfrau nad ydyn nhw naill ai wedi'u lleoli yng Nghymru neu wedi eu hysgrifennu gan awduron Cymreig".

"Mae hyn yn hynod o blwyfol. Sut ydyn ni yn mynd i allu mynd ati i ehangu busnes Cymreig os ry' ni'n gweithredu yn y ffordd gyfyngedig hon?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyngor Llyfrau'n dosbarthu eu llyfrau o'u canolfan yn Aberystwyth

Dywedodd Helgard Krausse eu bod yn gweithredu o fewn eu cylch gorchwyl.

Dywedodd: "Mae gan y Cyngor Llyfrau, fel elusen, genhadaeth benodol iawn.

"Mae hwn yn ymwneud â diwylliant Cymreig, llyfrau Cymraeg, llyfrau â dimensiwn Cymreig yn yr iaith Saesneg. Mae'n genhadaeth benodol iawn, gallai rhai honni fod hi'n rhy gul, ond dyna yw'r genhadaeth.

"Wrth gwrs mae diwydiant cyhoeddi enfawr yn yr iaith Saesneg ar gael ym Mhrydain - mae'n un o allforwyr a chynhyrchwyr mwyaf llyfrau Saesneg y byd.

"Felly, yn y cyd-destun hwnnw, gall yr hyn rydyn ni'n ei wneud ymddangos yn ymylol ond mae'n rhaid cofio ein bod ni yng Nghymru, yr ydym yn elusen sy'n canolbwyntio ar lyfrau Cymreig yn y ddwy iaith, a dyna yw ein cenhadaeth ac sy'n arwain yr hyn rydyn ni'n ei gynnig."