Beth sydd wedi gwneud Huw Edwards mor hapus?
- Cyhoeddwyd

Pam fod Huw Edwards â'i fodiau i fyny yn stiwdio BBC News at Ten yn lle ei ystum arferol o ymestyn ei fraich chwith a rhoi ei benelin dde ar y ddesg?
Postiodd y cyflwynydd y llun ar Twitter wrth ddiolch i blant yn Ysgol Gynradd Lansdowne, Caerdydd, sydd wedi gwneud fideo o'u cân rap Do the Huw, dolen allanol a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ddiweddar bu'r cyflwynydd yn dysgu criw o blant ysgol sut i eistedd yn awdurdodol wrth eu desgiau.
Cafodd y fideo #DoTheHuw ei rhannu'n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ystum nosweithiol Huw Edwards wedi dod yn dipyn o ffenomenon wedi i gyfrif Twitter Huws at Ten ddechrau tynnu sylw ato.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond mae plant Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Lansdowne wedi mynd gam ymhellach gyda'u rap sy'n clodfori prif gyflwynydd newyddion deg o'r gloch y BBC ac yn dangos sut i wneud yr ystum enwog wrth eu desgiau yn y dosbarth.
Ac maen nhw'n amlwg wedi gwneud argraff ar Huw Edwards ei hun a'r bron i 3,000 sydd wedi gwylio'r fideo hyd yma.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid dyna ddiwedd y stori chwaith, mae'n ymddangos fod y plant wedi cael ymweliad gan y newyddiadurwr yn ddiweddarach.